Mentrus: Golwg ar Ffydd Mentrus Pobl AmherffaithSampl
Diwrnod 7: Paul
Ar ddiwrnod 3 buon ni’n trafod menter Steffan, yn pregethu’r newyddion da am Iesu er iddo gostio ei fywyd iddo. Wel, roedd yna ddyn yn sefyll o'r neilltu, yn dal cotiau'r dynion a laddodd Steffan. Ei enw oedd Saul. Mae llawer ohonom yn gyfarwydd ag e oherwydd iddo gael ei newid mor llwyr gan gyfarfyddiad personol â Iesu nes iddo newid ei enw a'i genhadaeth bywyd a dechrau pregethu dros Iesu yn hytrach nag yn ei erbyn. Mewn gwirionedd, sgwennwyd llawer o'r Testament Newydd gan Paul (Saul yn flaenorol). Mae'n cynnwys llawer o lythyrau a ysgrifennodd at eglwysi a oedd yn cychwyn i wneud yn siŵr eu bod yn cael y newyddion am Iesu yn gywir.
Roedd Paul yn ddyn mentrus o'r dechrau, ond dyma'r peth - mewn rhai sefyllfaoedd efallai ei fod wedi mynd yn rhy bell. Er iddo sgwennu pethau dwfn ac ymarferol iawn am sut i garu eich gilydd yn dda (gweler Rhufeiniaid 12 ac 1 Corinthiaid 13), roedd hefyd yn ddyn. Wrth gwrs, roedd angen iddo alw pobl allan weithiau, ond mewn rhai achosion, tybed os buodd e’n rhy llym? Sgwennodd Paul yn Galatiaid am ffrae gyda Pedr (wnaethon ni ddarllen amdano ar ddiwrnod 1. Wyt ti’n cofio fel roedd Pedr yn siarad yn fyrbwyll? Dychmyga Paul a Pedr mewn sgwrs!). Wnaethon ni ddarllen hefyd yn Actau fod Paul a Barnabas ar un adeg wedi cael gymaint o ffrae am ddyn penodol – Ioan Marc – yn ymuno â nhw ar daith (cefnder Barnabas oedd e, ond yr oedd wedi cefnu arnyn nhw a’u gadael ar daith gynharach) fel eu bod wedi gwahanu! Cafodd Paul bartner newydd (Silas) ac aeth Barnabas a Ioan Marc i gyfeiriad gwahanol.
Gall pob un ohonom fod yn "rhy fentrus" ac anghofio gofalu am deimladau'r rhai o'n cwmpas ar adegau, ond nid dyna sut dŷn ni i fod i fod yn fentrus. Fel yr sgwennodd Paul, nid yw Duw wedi gorffen gyda ni eto; mae gwaith i'w wneud o hyd. Bydd Duw yn defnyddio'r hyn dŷn ni'n fodlon ei gynnig iddo; bydd yn ein cywiro'n dyner ac yn ein harwain pan fyddwn yn fodlon. Ac mae hynny'n wir am y rhai o'n cwmpas hefyd. Pan fyddi di'n anghytuno ag eraill ac mae pethau'n mynd yn ddrwg, efallai nad dyna ddiwedd y stori - nid oes neb y tu hwnt i brynedigaeth - ac roedd Paul yn gwybod hynny'n uniongyrchol. Ac eto bu bron iddo roi’r ffidil yn y to gydag Ioan Marc. Yn ei lythyr at yr eglwys yn Colosae, mae Paul mewn gwirionedd yn cyfeirio at gyfarwyddiadau a roddodd iddyn nhw i groesawu neb llai na Ioan Marc, yr union berson yr oedd ganddo broblem ag e o'r blaen!
Wrth iti ddod at ddiwedd y saith niwrnod hyn, gobeithio dy fod yn deall mentro mewn ffordd newydd. Does dim angen i fentro fod yn fawreddog ac yn darlledu i bawb iddyn nhw ei weld; efallai na fydd mor swnllyd neu hyd yn oed yn annifyr ag y gallet ti fod wedi meddwl; yn sicr nid yw'n cael ei fesur gan ddiffyg ofn, ond mewn gweithredoedd er gwaethaf yr ofn hwnnw; ac yn bennaf oll, yn syml, y weithred o ddod â beth bynnag sydd gen ti at Iesu a thrystio ynddo, â'r canlyniad, yw mentro.
Cwestiynau Myfyrdod/Trafod:
1. Wyt ti erioed wedi bod yn “rhy fentrus” ac wedi niweidio perthynas oherwydd hynny? Beth yw’r un peth wrth fentro allai helpu i atgyweirio'r berthynas honno?
2. Pa berson o'r astudiaeth hon wyt ti'n uniaethu fwyaf ag e? Pam?
3. Beth yw un cam y gallet ei gymryd yn ystod yr wythnos nesaf i gerdded tuag at fentro?
Am y Cynllun hwn
Dydy bod yn fentrus Ddim angen bod yn fawreddog fel bod pawb yn ei weld; y weithred yn syml yw dod â beth bynnag sydd gen ti at Iesu a thrtystio ynddo â'r canlyniad. Tyrd: teithia ar antur o saith diwrnod yn edrych ar ffydd beiddgar pobl amherffaith.
More