Mentrus: Golwg ar Ffydd Mentrus Pobl AmherffaithSampl
Diwrnod 1: Pedr
Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi darllen y Beibl neu wedi gwylio unrhyw beth a gynhyrchwyd yn ei gylch wedi clywed hanes Pedr yn cerdded ar y dŵr ac wedi cael eu herio i “gamu o’r cwch” mewn ffydd mentrus. Caiff hanes Iesu yn cerdded ar y dŵr ei gofnodi mewn tri o'r pedwar hanes am fywyd Iesu (yn Mathew, Marc, ac Ioan), ond yr unig un sy'n sôn am ran Pedryn yr hanes yw Mathew. Sylwa yn nghyfrif Mathew am arweiniad uniongyrchol Iesu i’r disgyblion. Mae Mathew yn disgrifio Iesu yn dweud wrthyn nhw am fynd I mewn i'r cwch. Mae pob un o'r tri chyfrif yn dyfynnu Iesu yn dweud, “Mae’n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” Yn syml, mae Iesu'n gofyn i'w ddisgyblion beidio bod ag ofn. Mae bod yn ofnus yn ddiangen oherwydd mai Iesu sydd yna ac mae'n bresennol. Ond wedyn syniad pwy yw hi i Pedr fynd allan o'r cwch? Syniad Pedr ydy e. Mae Iesu’n cytuno iddo, ond wnaeth Iesu ddim gofyn iddo e yn y lle cyntaf. Yr hyn ofynnodd ganddo oedd — i beidio bod ag ofn — ac yn y fan yna mae Pedr yn methu mewn gwirionedd (adn. 30). Ond gad i ni edrych ar ddiwedd y stori. Ymateb y disgyblion yw rhyfeddu ac addoli. Maen nhw wedi cael eu hargyhoeddi bod Iesu “yn Fab Duw go iawn.”
Mae’r math hwn o ymddygiad eithafol, ac yn aml yn fyrbwyll, yn weddol nodweddiadol o Pedr fel yn adroddiadau’r efengyl. Dŷn ni'n ei weld yn gwneud honiadau mawr mae e’n methu dilyn trwodd â nhw (er enghraifft, mae'n gwadu nabod Iesu yn syth ar ôl dweud y byddai'n fodlon marw drosto), dŷn ni'n ei weld yn torri clust dyn, dŷn ni'n ei weld yn siarad heb feddwl sawl gwaith, a dŷn ei weld yn dweud y drefn wrth Iesu ei hun. Ond dŷn ni hefyd yn ei weld yn arwain yr eglwys gynnar mewn ffordd anhygoel. Yn Actau 2 dŷn ni’n gweld Pedr - yn llawn o'r Ysbryd Glân - yn rhan o iacháu dyn cloff, yn sefyll ar ei draed dan erledigaeth, ac yn traddodi pregeth rymus ac ar ôl hynny mae tair mil o bobl yn credu yn Iesu. Ai'r un boi yw hwn?
Mae Iesu yn cywiro Pedr yn aml (a diolch byth yn iacháu'r dyn y torrwyd ei glust i ffwrdd gan Pedr!), ond mae Iesu'n cymryd Pedr, er ei fod yn gweithredu cyn meddwl, ac yn pigo e i ddechrau gwneud hynny. adeiladu ei Eglwys. Pam? Roedd Pedr yn amlwg yn wan mewn llawer o ffyrdd, ac roedd yn methu'n aml. Ond gwelodd Iesu rywbeth yn Pedr y gallai ei ddefnyddio. Roedd angen i Pedr dyfu, ond roedd y cynhwysion yno. Roedd Pedr yn fodlon eu hildio, i gael ei gywiro a’i ailgyfeirio gan Iesu pan oedd angen, ac i gadw ei lygaid ar Iesu.
Cwestiynau Myfyrdod/Trafod:1. Beth wyt ti’n ei ddysgu wrth ddarllen hanesion ysbrydoledig tri dyn gwahanol am yr un digwyddiad?
2. Pam efallai mai dim ond un o dri adroddiad y digwyddiad hwn sy’n sôn am ran Pedr?
3. Mae rhai ysgolheigion yn credu mai efengyl Marc mewn gwirionedd yw hanes Pedr o fywyd Iesu, a Marc newydd ei sgwennu i lawr ar ei ran. Os yw hyn yn wir, pam efallai fyddai’r rheswm dros beidio bodeisiau dweud wrth bawb am yr amser wnaeth e gerdded ar y dŵr?
4. Beth yw cryfder a gwendid sydd gen ti, y gallet ti adael i Iesu eu defnyddio?
Am y Cynllun hwn
Dydy bod yn fentrus Ddim angen bod yn fawreddog fel bod pawb yn ei weld; y weithred yn syml yw dod â beth bynnag sydd gen ti at Iesu a thrtystio ynddo â'r canlyniad. Tyrd: teithia ar antur o saith diwrnod yn edrych ar ffydd beiddgar pobl amherffaith.
More