Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mentrus: Golwg ar Ffydd Mentrus Pobl AmherffaithSampl

Bolder: A Look at the Audacious Faith of Imperfect People

DYDD 5 O 7

Diwrnod 5: Nathan

Wyt ti’n cofio Dafydd o ddoe? Roedd yn foi gwych. Ac eithrio pan doedd e ddim. Gwnaeth Dafydd lawer o bethau canmoladwy, fel derbyn penderfyniad Duw i’w wneud yn frenin a bod yn amyneddgar yn aros i ddod yn frenin. (Arhosodd i deyrnasiad Saul ddod i ben yn lle gorfodi ei hun ar yr orsedd cyn i Dduw ei ddymuno.) Ond gwnaeth Dafydd gamgymeriadau mawr hefyd. Ei un mwyaf nodedig oedd pan dwyllodd gyda gwraig dyn arall ac yna lladdwyd y dyn mewn brwydr; yn y bôn fe gyflawnodd lofruddiaeth i geisio cuddio ei bechod. Ond Dafydd oedd y brenin ar y pryd, felly pwy oedd am ei ddal yn atebol am hynny? Pwy oedd yn mynd i allu cyhuddo brenin o lofruddiaeth a pheidio â chael ei lofruddio eu hunain?

Dyma ble mae Nathan y proffwyd yn dod i mewn i’r hanes. Fel proffwyd, swydd Nathan oedd siarad â phobl ar ran Duw. Ond roedd Nathan yn dal yn ddyn. Pe baech chi'n darllen ymlaen llaw yn llyfrau Brenhinoedd a Cronicl, doedd siarad ar ran Duw ddim yn golygu na fyddai brenhinoedd yn ceisio eich lladd chi os nad oedden nhw'n hoffi'r hyn oedd gan Dduw i'w ddweud trwoch chi. Felly roedd Nathan mewn sefyllfa anodd, ond roedd yn ufudd i Dduw ac aeth i mewn i wynebu Dafydd beth bynnag. Fodd bynnag, roedd y ffordd wnaeth Nathan wynebu Dafydd, yn wych (ac yn ôl pob tebyg wedi dod yn syth oddi wrth Dduw). Roedd Nathan yn gwybod y byddai Dafydd yn flin (Wedi’r cyfan, pwy sydd ddim pan y gelwir nhw i gyfrif?), ond daeth Nathan o hyd i ffordd i gyfeirio dicter Dafydd at ei bechod ei hun mewn ffordd glyfar iawn. Dywedodd Nathan stori wrth Dafydd, mae modd darllen amdani yn yr Ysgrythurau heddiw. Roedd Dafydd wedi gwylltio cymaint â’r dyn cyfoethog yn y stori am sut roedd yn trin y dyn tlawd nes iddo orchymyn i'r dyn cyfoethog gael ei ladd. Ac yna dyma Nathan yn amneidio a dweud: “Ti ydy’r dyn.”

Dychmyga sut mae Nathan wedi bod yn teimlo, sawl gwaith mae'n rhaid ei fod wedi ymarfer ei stori, a roedd yn dychmygu sut y deuai’r cyfan i ben. Mae'n rhaid ei fod yn nerfus, os nad yn gwbl ofnus. A phan ddaeth y foment, oedd e’n petruso? Oedd yn rhaid iddo gymryd anadl ddofn? Y cyfan a wyddom yw iddo fynd yn ei flaen a dweud. Galwodd Dafydd i gyfrif waeth beth oedd safbwynt Dafydd a beth oedd ei ymateb i fod. Yn ffodus i Nathan, ac er clod i Dafydd, wnaeth e gyfaddef ei fai.

Newidiodd y tôn bryd hynny. Ymateb Nathan i ostyngeiddrwydd, perchnogaeth a chyffes Dafydd oedd tosturi. Yn syml, roedd Nathan yn cyflwyno’r newyddion am ymateb Duw i Dafydd, ond roedd yn siŵr o atgoffa Dafydd ar ôl iddo gyfaddef ac edifarhau, “Wyt, ond mae’r Arglwydd hefyd wedi maddau dy bechod.” Roedd Dafydd yn dal i orfod byw gyda chanlyniadau ei weithredoedd, ond roedd ei euogrwydd wedi cael ei faddau gan Dduw. Felly pa ochr bynnag y byddi di arni - yn cael dy alw i gyfrif neu'n gorfod herio rhywun – gelli sefyll yn hyderus i wynebu ofn neu i wynebu canlyniadau oherwydd “mae’r Arglwydd hefyd wedi maddau dy bechod”

Cwestiynau Myfyrio/Trafod:

1. Wyt ti erioed wedi gorfod herio ffrind am sut y gallen nhw fod yn brifo rhywun arall? Sut es di ati? Sut y trodd allan? Fyddet ti'n gwneud unrhyw beth yn wahanol?

2. Darllena Diarhebion 25:15 eto. Sut mae’r adnod hon yn awgrymu mynd ati i gynnal sgyrsiau anodd?

3. Wyt ti erioed wedi cael ymateb gwael i rywun yn tynnu sylw at ddiffyg ynot ti? Sut allet ti ddangos menter drwy gyfaddef y tro nesaf?

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Bolder: A Look at the Audacious Faith of Imperfect People

Dydy bod yn fentrus Ddim angen bod yn fawreddog fel bod pawb yn ei weld; y weithred yn syml yw dod â beth bynnag sydd gen ti at Iesu a thrtystio ynddo â'r canlyniad. Tyrd: teithia ar antur o saith diwrnod yn edrych ar ffydd beiddgar pobl amherffaith.

More

Hoffem ddiolch i Berea am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://berea.org