Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mentrus: Golwg ar Ffydd Mentrus Pobl AmherffaithSampl

Bolder: A Look at the Audacious Faith of Imperfect People

DYDD 3 O 7

Diwrnod 3: Steffan

Steffan yw'r merthyr Cristnogol cyntaf (rhywun a laddwyd oherwydd eu ffydd) ar ôl iddo draddodi araith danllyd i rai arweinwyr crefyddol lle mae'n gosod hanes cenedl Israel. Yn ei araith, mae Steffan yn esbonio’n blwmp ac yn blaen sut y gwnaeth yr Israeliaid wrthod Duw drosodd a throsodd, er i Dduw eu hamddiffyn a’u hachub drosodd a throsodd. Ond wnaeth Steffan ddim dechrau fel siaradwr tanllyd. Dechreuodd trwy weini byrddau. Yn Actau 6 gwelwn y disgyblion yn ceisio datrys problem. Yn syml, roedd gormod o waith i'w wneud gyda'r bobl oedd ganddyn nhw. Roedd gweddwon i gael gofal ond hefyd neges Iesu oedd iddyn nhw fynd allan! Ellid ddim anwybyddu gofalu am bobl, na lledaenu'r efengyl. Felly gofynnodd y disgyblion am help.

Rhywbeth sy'n ddiddorol am sut y gwnaeth a’n nhw ddewis pwy fyddai'n helpu yw pa mor uchel oedd y safonau. Efallai y bydd rhywun yn meddwl tybed a oedd e o bwys pwy sy'n gweini eu bwyd i weddwon cyn belled â bod y gweddwon yn cael bwyta. Ond roedd y disgyblion yn chwilio am fath penodol o berson i wneud y gwaith: “dynion o enw da,” “llawn o'r Ysbryd Glân,” a “llawn doethineb.” Pam roedd y rhinweddau hyn yn bwysig ar gyfer y swydd?

Dewisir Stephen ar gyfer y rôl hon ynghyd â chwech arall ac fe’i disgrifir yn benodol fel “llawn o’r Ysbryd Glân.” Mae hefyd yn cael ei ddisgrifio fel “â ffafr Duw a nerth Duw ar waith yn ei fywyd” (6:8). Mae Steffan yn sefyll allan yn y fath fodd fel bod yr arweinwyr crefyddol yn ei ystyried yn fygythiad. Maen nhw hyd yn oed yn dod o hyd i dystion ffug i ddweud celwydd amdano, gan ddweud ei fod wedi sarhau Duw a’r grefydd Iddewig, ac mae Steffan yn cael ei ladd o ganlyniad.

Efallai dy fod yn meddwl i ti dy hun ar y pwynt hwn, "Ond dydw i ddim yn siaradwr, dydw i ddim yn ddewr, a byddwn yn rhedeg i ffwrdd pe bai unrhyw un yn ceisio fy lladd. Fedra i ddim bod yn fentrus fel Steffan.” Mae’n bwysig cofio nad oedd o reidrwydd wedi dechrau fel hyn. Pan sonnir am ei weithredoedd mentrus, wrth eu hymyl y mae’r ffaith ei fod yn “llawn ’r Ysbryd Glân” a chyda “ffafr a nerth Duw.” Trwy gydol y Beibl pan fydd yr Ysbryd Glân yn rhywun, mae ganddyn nhw bŵer. Weithiau mae’n gryfder corfforol (gweler Samson yn Llyfr y Barnwyr), ond yn aml y gallu i wneud neu ddweud pethau na fydden nhw’n gallu eu gwneud fel arall ydyw. Mewn geiriau eraill, os nad oes gen ti’r dewrder i wneud yr hyn ti’n gwybod sy’n iawn, gall yr Ysbryd Glân ei gyflenwi! Efallai y byddi di'n wynebu marwolaeth neu beidio am ddilyn Iesu fel y gwnaeth Steffan, ond gelli wybod mai'r un Ysbryd a roddodd mentrus rwydd iddo aros yn driw i Iesu yn wyneb cam-drin ofnadwy (llofruddiaeth, mewn gwirionedd) yw'r un fydd yn byw ynot ti pan fyddi di'n dewis dilyn Iesu.

Cwestiynau Myfyrdod/Trafod:

1. Sut mae’r canlyniad yn Actau 6:7 yn gysylltiedig â safonau’r gweithwyr a ddewiswyd yn 6:3?

2. Pa debygrwydd ydych chi'n ei weld rhwng Steffan a Iesu?

3. Os ydych wedi dewis dilyn Iesu, i dderbyn ei aberth drosoch, ac i roi eich bywyd iddo, a ydych wedi gweld yr Ysbryd Glân yn gweithio yn eich bywyd? Sut felly?

4. Os nad ydych wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, beth yw un rhwystr neu gwestiwn sydd gennych a sut y gallech geisio'r ateb?

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Bolder: A Look at the Audacious Faith of Imperfect People

Dydy bod yn fentrus Ddim angen bod yn fawreddog fel bod pawb yn ei weld; y weithred yn syml yw dod â beth bynnag sydd gen ti at Iesu a thrtystio ynddo â'r canlyniad. Tyrd: teithia ar antur o saith diwrnod yn edrych ar ffydd beiddgar pobl amherffaith.

More

Hoffem ddiolch i Berea am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://berea.org