Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Caru Fel IesuSampl

Love Like Jesus

DYDD 13 O 13

Caru fel Iesu YW Caru Iesu

Pan ddechreuodd fy nheulu faethu, fe aethom i barti Nadolig ar gyfer teuluoedd maeth mewn eglwys ac enwad nad oedden ni'n perthyn iddo. Treuliais y dwyawr gyfan yn dal y dagrau'n ôl i geisio cadw fy hun rhag cyffroi. Ble bynnag o'n i'n edrych ro'n i'n gweld wyneb Iesu'n y dorf.

Hyd yn oed cyn i ni gerdded i mewn gyda'r plant, wnaethon ni gwrdd, ar hap, yn y maes parcio, y ffrind oedd wedi ein gwahodd i'r parti. Dyna ble roedd e ar ei braich, yn glud yn ei chadair car, wedi'i geni i feth, cocên, Xanax, a ryw gyffur arall na fedrai, ar hyn o bryd, gofio'i enw. Roedd e yna eto wrth i mi gerdded i mewn - haid o wirfoddolwyr yn rhoi croeso cynnes i ni a chynnig hosanau llawn a thagiau enw, yn lle defnyddio'r Sadwrn cyn y Nadolig i siopa neu baratoi ar gyfer y Nadolig. Yna, roedd e tu ôl i ni. Mam a thad, a wir i chi, chwech plentyn ysgol. Roedd y rhan helaeth gyda sbectol drwchus a charntro coesau, a chyda dillad glân a gwên bodlon. Roedd ganddo wallt coch ddangosodd i mi, gyda balchder, y Leo roedd wedi'i gael gan aelod di-enw o'r eglwys. Ac e oedd y tad a'r plentyn oedd gydag e mewn cadair olwyn allai ddim ymateb ond edrych i lygaid ei dad ar ôl iddo sychu'i drwyn â hances. Fe, hefyd, oedd y ddynes siaradus gyda phlentyn bach llond ei groen ar ei glin, a fe oedd y plentyn oedd yn gafael yn dynn ei choesau. Fe hefyd oedd yn defnyddio iaith arwyddion gyda'r ddau fachgen bach oedd o'i blaen. A fe hefyd oedd y taid oedd yn gwisgo het Siôn corn a chanu am Rudolph a 'Jingle Bells' i gadw'r plant yn ddiddan. Wrth ddreifio adre gyda chist car yn llawn bwydydd ac anrhegion, sylweddolais mai fe hefyd oedd y ddwy hogan fach aeth adre gyda ni'r noson honno. Fe oedd fy nheulu hyd yn oed. Roedden ni'n bod fel Iesu a charu Iesu ar yr un pryd. Roedd Iesu ymhobman o'n i'n edrych - yn y rhai oedd yn caru ac wedi'u caru.

Yn y darlleniad heddiw mae Paul yn galw ar yr eglwys i fyw mewn ffordd roedd y pobl yn y parti hwn yn ei arddangos. Bod yna gydraddoldeb. Ein bod, bob un ohonom, yn hyn gyda'n gilydd. Nid ei ddwylo a'i draed, yn unig, ond ei wyneb weithiau hefyd. Ei gorff gweladwy ac amlwg. Ond, os na wnawn ni ganiatáu ein hunain i fod wedi ein trwytho mewn tristwch, angen, poen, tlodi, yn doredig, ac unigrwydd, wnawn ni fyth ei deimlo. A ni fydd y plant yn dy gymuned fydd yn treulio'r Nadolig heb deulu ddim hyd yn oed yn torri dy galon achos fyddi di ddim yn gwybod enw un ohonyn nhw. Nes y byddi'n edrych i fyw eu llygaid wnei di fyth brofi'r llawenydd o weld Iesu Grist, wyneb yn wyneb, yr ochr hyn i'r nefoedd.

Er hynny, mae e'n werth e. Mae e, tu hwnt i bob dychymyg, yn gyffrous o hardd. Mae e'n syfrdanol, mawreddog, yn ogoneddus a disglair. Ac mae e'n fwy na digon o reswm i garu fel Iesu - gyda phopeth sydd ynom.

Kendra Golden
Tîm Cyfryngau Creadigol Life.Church

Life.Church
Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

Love Like Jesus

Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw a charu'n llawn fel Iesu.

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv