Caru Fel IesuSampl
Fe wnest ti e drosta i
Roedd hi'n noson oer o Chwefror wrth i ni gyrraedd adre i'n cymdogaeth. Ar ochr y ffordd roedd merch ifanc yn crio'n afreolus, a'r cwbl roedd yn wisgo oedd siwmper a throwsus byr. Stopiais y car a mynd ati gan ofyn, "Alla i dy helpu chi?"
Mwmiodd y geiriau, "Dw i'n feichiog ac mae fy nghariad wedi nhaflu fi allan.
Wrth i mi chwilio am eiriau, yr hyn ddaeth i'r meddwl oedd, Mae hi'n berson. Dangosa beth urddas iddi. Felly dyma fi'n gofyn, "Beth yw dy enw?
"Brittney"
Atebais, "Mae'n bleser i dy gyfarfod di Brittney. Hoffet ti lifft i ble ti'n mynd?
"Baswn. Mae fy nain yn byw gerllaw." meddai.
Aethon ni at y car, a neidiodd fy ngŵr i'r sedd cefn at y plant - oedd yn gegrwth. Heb oedi am eiliad, cyflwynais fy nheulu iddi fel petawn i wedi'i hadnabod hi ers blynyddoedd.
"Brittney, fyddai hi'n iawn petawn i'n nôl dillad i ti?#2 Fedra i redeg mewn i'w nôl nhw."
"Bydde. Dw i'n oer iawn."
Stopiais a mynd i mewn i'r tŷ. Er mawr syndod i mi roedd Brittney tu ôl i mi. Gafaelais mewn siwmper fawr gynnes, trowsus a flip-flops. Aeth i hi i mewn i'r stafell ymolchi i newid.
Yna, aethon ni â hi i dŷ ei nain a dymuno'n dda iddi. ar y ffordd adre holodd y plant am beth oedd wedi digwydd a dwedais yn syml, "Dw i'n siŵr mai dyna fyddai Iesu wedi eisiau i ni ei wneud." Fe wnaethon nhw gytuno ac aethon ni gartre.
Y bore canlynol ro'n i'n darllen fy nefosiwn dyddiol a dyna'r geiriau'n neidio allan o'r dudalen, "chi roddodd ddillad i mi pan oeddwn i'n noeth." Neidiodd fy nghalon wrth gofio digwyddiadau'r noson flaenorol.
Gall cyfleoedd i garu fel Iesu ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le. Gallwn garu'r dieithryn ar y stryd fel Iesu, heb hyd yn oed ddweud ei enw. Pan fydd Brittney yn cwrdd Iesu, dw i'n gweddïo y bydd yn ei adnabod am ei bod wedi'i gwrdd ar y ffordd i dŷ ei nain, ar noson oer o Chwefror.
Tasha Salinas
Life.Church Midwest City
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw a charu'n llawn fel Iesu.
More