Caru Fel IesuSampl
Caru'r rhai Toredig
Cefais fy magu mewn cartref toredig - roedd cyffuriau, alcohol, a cam-drin corfforol yn gyffredin a disgwyliedig. Wnaeth hi ddim cymryd llawer o amser i mi ddilyn patrwm rhai o'r nodweddion a welais ar sail dyddiol. Cyn bo hir a hwyr ro'n i allan yn yfed yn hwyr y nos, dwyn cyffuriau gan fy llystad i'w gwerthu neu eu cymryd, Dw i'n cofio cerdded adre am 7:00 un bore i gael fy hun yn barod ar gyfer ysgol, ar ôl noson o yfed a chymryd cyffuriau. Dw i'n cofio edrych yn y drych, yn drist gyda'r person oedd yn edrych nôl arna i. Ro'n i wedi troi'n rywun o'n i wedi'i ddirmygu ers talwm iawn - rywun ro'n i wedi addo i fi fy hun, na fyddwn i fyth yn debyg i. Wnaeth hi ddim cymryd fawr o amser i mi gyfiawnhau sut, o'n i a pherswadio fy hun mai felly oedd pethau i fod. Dwedais wrth fy hun, "Dyna'r cwbl sydd gan byw mewn ryw dref fach ddi-nod i'w gynnig. Beth arall sydd yna i'w wneud?"
Yn ystod yr un cyfnod roedd fy nain yn ddyfal wrth ddal ati i'm gwadd i'r eglwys. A rai penwythnosau ro'n i'n rhoi mewn ac yn gwneud yn siŵr mod i ddigon sobor, neu heb fod yn partio gymaint â faswn i fel arfer y noson cynt. Fel ddwedes i'n gynharach, ro'n i'n byw mewn tref fach. Os wyt ti erioed wedi byw mewn un, mi fyddi di'n gwybod f'od pawb yn gwybod beth rwyt yn ei wneud, cyn i ti ei wneud e. Roedd hi'n ymwybodol o'm camddefnydd o gyffuriau ac roedd hi wedi bod yn gweddïo ar Dduw i ddangos ei gariad a'i gynlluniau ar fy nghyfer. Roedden nhw'n gymaint mwy addawol a gobeithiol na allwn fyth fod wedi'i ddychmygu.
Roedd bywyd gartre'n gwaethygu, ac roedd y cam-drin wedi troi o gymedrol i eithafol. Wrth edrych yn ôl, mae'n anhygoel i weld fel wnaeth Duw drefnu'r llinell amser o ddigwyddiadau. Arweiniodd cariad fy nain tuag ataf i edrych tu hwnt i'm ffaeleddau, at deulu'n fy nghymryd i fewn fel rhan o'u teulu. Cymron nhw siawns ar lencyn oedd mewn trafferthion. Drwy eu cariad a'u gofal, ro'n i'n gallu gweld cariad Crist tuag ata i. Oherwydd y cariad hwnnw dw i bellach yn ddyn newydd. Dyn gyda phriodas hyfryd a phlant wedi'u magu gyda'r cariad nad o'n i'n ymwybodol ohono ar un adeg. Enillais hyn i gyd oherwydd fod nifer o bobl yn gallu caru fel Iesu
Danny Duran
Life.Church Overland Park
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw a charu'n llawn fel Iesu.
More