Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Caru Fel IesuSampl

Love Like Jesus

DYDD 6 O 13

Caru'r un anodd ei Garu

Yn ôl safonau'r eglwys ro'n i'n reit dda. Ro'n i'n 'caru'r pechadur ond yn casáu'r pechod' hyda t y diwrnod bu raid i mi roi'r ystrydeb ar waith. Dyna ble roedd e, fy mywyd wedi'i daflu i drobwll dros fradychiad dwfn. Roedd rhaid i mi ddewis, cerdded i ffwrdd oddi wrth y berthynas neu garu rywun na allai fod wedi poeni dim am y boen ro'n i'n ei brofi, heb unrhyw edifeirwch na ddatrysiad ar y gorwel.

Chwiliais am Dduw yn ddyfalam ddoethineb. Beth ddylwn i ei wneud? Ar y funud hon dadlennodd Dduw rywbeth i mi. - calon fy mradwr. Mae'r dywediad "mae pobl sydd wedi'i brifo'n brifo pobl" yr union beth oedd yn digwydd. Roedd y person yma mewn helbul cyfan gwbl. Yn anffodus, doedd e ddim yn gwybod sut i ddelio efo'r peth, na ble i fynd ag e. felly fe ddaethpwyd ata i.

Mae rywbeth rhyfedd yn digwydd pan dŷn ni'n dechrau ffocysu ar galon eraill, yn hytrach na'u ymddygiad. Dŷn ni'n troi'n dosturiol - fel Iesu. Yn sydyn dydy e ddim amdana i a sut dw i wedi fy mrifo. Yn lle, mae e'n troi'n ffyrdd i'w caru nhw drwy eu poen.

Dw i'n credu mai dyma mae Iesu'n ei ddweud yn ei Bregeth ar y Mynydd pwerus. Mor hawdd yw caru pobl sy'n garedig efo ni. Mae anghredinwyr yn gwneud hynny hyd yn oed. Mwy na thebyg, nid nhw sydd angen y cariad fwyaf. Mae'n debycach mai'r cydweithiwr sy'n bradychu, y priod celwyddog, y llencyn gwrthryfelgar, neu'r gweinydd cas yn y bwyty. Mae cymryd y daith i garu fel Iesu'n trawsnewid bywyd. Mae e'n garu gyda thragwyddoldeb mewn golwg. Mae e'n risg, ond yn werth ei gymryd!

Shannon Morrison
Life.Church Deheubarth Oaklahoma City

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Love Like Jesus

Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw a charu'n llawn fel Iesu.

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv