Caru Fel IesuSampl
Iesu'n Rhywle
Roedd hi'n noson o Wanwyn cynnes pan aeth ein teulu i gêm bêl droed mewn prifysgol. Roedd fy merch yn 5 mlwydd oed, ac yn fuan ar ôl cyrraedd, sylwodd ar fachgen bach yn chwarae ar ben ei hun. Doedd hi ddim yn ei adnabod. Doedd e ddim yn gallu siarad Saesneg ac yn wahanol iawn iddi hi mewn lot o ffyrdd, ond wnaeth hynny mo'i stopio hi rhag gwenu arno ac ymuno'n ei gêm ddychmygol. Fe wnaethon nhw dreulio'r noson yn chwarae a chwerthin â'i gilydd, ac erbyn diwedd y gêm roedden nhw wedi llwyr ymlâdd ac yn pwyso ar ei gilydd i gael seibiant.
Dechreuodd hynny berthynas hyfryd gyda'r teulu annwyl o wlad, diwylliant a ffydd arall. Rhoddodd gyfle i'w gwahodd i mewn i'n bywydau, a chafodd effaith ddofn arnom ni. Roedd hyn yn gyfle unigryw i rannu cariad duw mewn ffyrdd ymarferol a personol., ac mae'n para i fod yn berthynas arwyddocaol yn ein teulu. Fe wnaeth ein hymestyn a'n newid er gwell.
Dechreuodd y cwbl am fod ein merch wedi caru'r bachgen bach fel mae Iesu'n ei garu. Dydy e ddim yn dangos ffafriaeth. Mae e'n ein derbyn fel ydym, beth bynnag yw ein cefndir, ac yn gweithio'n ein bywydau pan dŷn ni'n ei adael i mewn.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti ymestyn allan i rywun sy'n wahanol i ti? Os yw'n gryn amser, gofynna i Dduw agor dy lygaid i dy gyfle nesaf. A phan fydd yn gwneud, bydd yn barod i ymateb. Fe allai newid dy fywyd.
Amanda Sims
Life.Church Ar-lein
Am y Cynllun hwn
Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw a charu'n llawn fel Iesu.
More