Caru Fel IesuSampl
Fel mae Crist yn Caru'r Eglwys(rhan1)
Fel merch fach, ro'n i'n breuddwydio am fy mhriodas - o'r gacen, i'r ffrog, a hyd yn oed y dyn faswn i'n ei briodi. Pan wyt ti'n breuddwydio am dy ddiwrnod arbennig dwyt ti fyth yn breuddwydio am y treialon fydd yn dod ar ôl y diwrnod hwnnw.
Cyn i mi gael fy ngeni cafodd fy mam ddiagnosis o arthritis llym. Roedd pob dydd yn strygl iddi. Dewisodd fy nhad ei charu a'i gwasanaethu bob dydd. Ar rai diwrnodau roedd mor syml â choginio brecwast neu ei helpu i gau carai ei hesgidiau. Waeth beth oedd y dasg roedd fy nhad yn caru fy mam. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach gwelais fy nhad yn gwasanaethu fy mam pan gafodd hi ddiagnosis o Hodgkin’s Lymphoma. Treuliodd fy nhad ei ddiwrnodau'n caru, gwasanaethu, a gweddïo drosti. Ro'n i erioed wedi gweld fy nhad mor flinedig yn gorfforol ac ysbrydol, ond daliodd ati. Dyma oedd ei ymrwymiad i Grist ac fy mam.
Yn fuan iawn ar ôl i fi a fy ngŵr briodi fe wnaethom ni wynebu treialon agosatrwydd na ddylai unrhyw briodas ei wynebu. Roedd gweithred fyddai'n arfer dod â llawenydd i ni'n dod â poen a dagrau. Bob tro bawb i'n disgyn i gysgu'n crio. oherwydd y boen, diffyg agosatrwydd a'r teimlad fy mod yn fethiant fel gwraig crëwyd bwlch rhyngom.
Roedd rhain yn ddiwrnodau anodd wnaeth droi'n flynyddoedd a doedd run o'r ddau ohonon ni'n gweld diwedd ar y gorwel. Safodd fy ngŵr gyda mi. Rhoddodd ei deimladau dolurus i'r naill ochr a dewis fy ngharu fel y ro'n i. Fe'm carodd i drwy boen a galar. Heddiw, mae e'n dal i fy ngharu. Mae pobl yn dweud fod merched yn chwilio am wŷr sy'n dangos yr un rhinweddau a'u tadau. Heddiw, dw i'n ddiolchgar am un sy'n cyd-gerdded â mi ac yn caru fel fy nhad ac sy'n caru fel Iesu.
Shirley Martin, Tîm Technoleg Gwybodaeth Life.Church
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw a charu'n llawn fel Iesu.
More