Caru Fel IesuSampl
Un corff; Llawer o Aelodau
Ro'n i newydd ddod oddi ar y ffôn gyda'm rhieni oedd newydd roi newyddion i mi nad o'n i'n ddisgwyl ei glywed - roedd fy mrawd wedi cyflawni hunan-laddiad. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud oherwydd ato ef o'n i'n mynd mewn cyfnodau o angen. Pryd bynnag roedd rhywbeth, da neu ddrwg, yn digwydd, fe o'n i'n ei ffonio gyntaf.
Yn ffodus roedd gen i gymuned o bobl i rannu bywyd. Ffoniais arweinydd y tîm bach ac o fewn ur awr roedd pedwar ffrind wedi cyrraedd fy fflat i fod gyda mi. Roedd beth ddigwyddodd dros yr wythnosau a misoedd canlynol yn anhygoel. Daeth rhai draw a gadael i mi grio. Aeth rhai eraill â fi allan a gwneud i mi chwerthin. Darparodd eraill brydau bwyd. Cyfrannodd eraill i elusennau er cof am fy mrawd. Gyrrodd rhai drwy'r nos i fod yng ngwasanaeth coffa fy mrawd i'm cefnogi i. Addurnodd eraill fy fflat ar gyfer y Nadolig i'm croesawu'n ôl o'r daith anodd. Fe wnaeth fy ffrindiau beth roedd Duw wedi'i donio bob un ohonyn nhw i'w wneud i ofalu amdana i.
Mae 1 Corinthiaid, pennod 12 yn ein dysgu ein bod yn un corff gyda llawer o aelodau. Mae Duw wedi rhoi i bob un o rio unigryw, talentau, ac angerdd i wasanaethu eraill. Rwyf yn ddiolchgar tu hwnt i'm ffrindiau am yr hyn oedd ganddyn nhw'n fy amser o alar. Heddiw, dw i eisiau dy annog di i gofio fod gen ti'n union beth sydd ei angen i wasanaethu eraill a charu fel Iesu yn eu hamser mwyaf nhw o angen.
Amanda Davis
Life.Church Tulsa
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw a charu'n llawn fel Iesu.
More