Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Caru Fel IesuSampl

Love Like Jesus

DYDD 11 O 13

Fel mae Crist yn Caru'r Eglwys(rhan 2)

Dim ond ers dwy flynedd oedden ni'n briod pan deimlodd hi boen arteithiol y noson honno'n gorlethu gweddill ei synhwyrau. Byddai'r boen yn pylu dros nifer o oriau mewn tonnau oedd i'w weld yn ei hwyneb ac yn ei dagrau. Fel, llencyn swil. yn 20 oed, roeddwn wedi addo caru'r ferch yma, er gwell, er gwaeth, ond ro'n i wedi tybio y byddai'r gwaeth yn dod ar ôl degawdau o baratoi. Ddigwyddodd mo hynny. Daeth y boen yn ôl dro ar ôl tro. Gyda'r nos, gyda babi'n y stafell nesaf roedden ni'n ceisio mwynhau perthynas fel byddai unrhyw gwpl priod yn gwneud, ond yr unig beth oedd yna oedd y boen. Dyna oedd y dyddiau cyntaf o dair blynedd o fethu bod cael cyfathrach. Roedd wedi sleifio i'n llofft fel ryw gysgod hir min nos. Roedd wedi dwyn oddi arnom yr agosatrwydd oedd i fod i'n gwneud ni'n agosach. Byddai wythnosau'n pasio cyn rhoi tro arni eto, gan feddwl fod pethau wedi newid, ond doedd e ddim. Cyn bo hir wnaethon ni roi fyny. Yn ystod sawl noson roedden ni'n troi cefn ar ein gilydd a wynebu'r ddwy wal gyferbyn â'i gilydd. Ro'n i'n crio i mewn i'r gobennydd wrth imi ei chlywed yn trio cuddio ei griddfannau.

Nid fel yn o'n i wedi dychmygu priodas. Cynyddodd y llestri a cewynnau, golchi dillad a lawnt a'n gyrru ymhellach ar wahân. Doedd dim cymodi cariadus ar ôl ffraeo. Doedd dim boreau Sadwrn. Doedd dim nosweithiau dêt. Gadawodd y frwydr ni'n gorfforol ac emosiynol drawmatig. Ro'n i'n meddwl mod i'n ei charu fel mae Crist yn caru'r Eglwys, ond do'n i ddim yn sylweddoli ei fod o'n golygu rhoi fy hun yn gwbl iddi. Dysgais cyn lleied o'nb i'n wybod, go iawn, am garu fel Iesu. Meddyliais yn ddifrifol iawn am adael. Am sawl noson, ro'n i'n aros ar fy nhraed yn hwyr ac erfyn ar Dduw mewn gweddi. Gwelais gais ar ôl cais, dydd ar ôl dydd i ail afael yn y berthynas yn cael ei wrthod am resymau do'n i ddim yn ei ddeall.

Dyna pryd wnaeth Duw agor fy llygaid, a dw i'n cofio meddwl, dyma fel mae Iesu'n teimlo amdana i. Bob bro roedd yn gofyn i gysylltu â mi, ond o'n i'n rhy brysur. Bob nos cyn mynd i'r gwely, yn lle treulio amser ro'n i'n llosgi fy emosiwn cylchynol yn gorweddian mewn hunan-dosturi. Gallwn ddychmygu poen a thor-calon wrth i mi wrthod ei wahoddiadau dro ar ôl tro.

Yr holl amser, ro'n i wedi bod yn gafael ynh fy hawl fel gŵr, yn honni ei fod i gyd yn ymwneud â chryfhau ein priodas. Os o'n i'n mynd i ddod drwy hyn roedd rhaid i mi newid. Hyd yn oed pan oedd yn teimlo'n unochrog, roedd hi angen i mi roi i'r naill ochr fy hawliau fel gŵr a'i charu hi'n ddiamodol. Felly, pan o'n i'n teimlo pigiad cael fy ngwrthod, baswn i'n cofio fel roedd Duw yn teimlo pan o'n i 'n ei wrthod e. Yn Effesiaid mae e'n dweud fod dyn sy'n caru ei wraig yn caru'i hun. Dysgais pan o'n i'n teimlo fwyaf digariad, dyna pryd roedd angen oedd angen i mi garu fy ngwraig fwyaf. Ddaeth yr aeddfedrwydd yna ddim gyda treigl amser. Roedd rhaid iddo gael ei feithrin drwy boen, aberth ac ildio.

Dw dal ddim yn dda am ei charu fel mae Iesu'n ei charu, ond mae e wedi adnewyddu'n ei ras ein priodas a rhoi i ni uniad afaelgar. Oherwydd ein poen, a'n dewis i garu ein gilydd drwy'r cyfan, dŷn ni'n mwynhau lefel o agosatrwydd na fydd rhai priodasau fyth yn ei brofi.

Michael Martin, Tîm YouVersion

Diwrnod 10Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

Love Like Jesus

Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd