Caru Fel IesuSampl
Pwrpas mewn Poen.
Ychydig o flynyddoedd yn ôl cafodd fy ngwraig a minnau ein hunain ar ddechrau cyfnod o dor-calon a phoen wrth i ni stryglo i ddechrau teulu. Roedd ffrindiau i ni'n cael eu plentyn cyntaf...yna'r ail...ac roedden ni'n dal i ofyn i Dduw pam roedden ni'n methu dechrau teulu. Pedair mlynedd yn ddiweddarach gallem weld bod ein taith o fethu cael plant wedi bod yn rhan o gynllun mwy. Trodd yn rywbeth gymaint mwy na allem fyth fod wedi'i ddychmygu. Ond cyn y wyrth, beth ddaeth â ni drwy'[r boen? Ein LifeGroup.
Fe wnaethon nhw ein caru ni fel Iesu ac ymuno â ni'n ein poen a siomedigaeth bob un dydd. Dangoswyd hyn yn bendant drwy Salm 34, adnod 18 i ni. Profwyd cysur Duw gennym bob cam o'r ffordd wrth i'r Ysbryd Glân
Oherwydd eu cefnogaeth, penderfynon ni fynd yn gyhoeddus gyda'n taith, ac roedden ni'n gallu rhannu neges Duw o obaith gyda chyplau oedd yn meddwl eu bod ar ben eu hunain yn y strygl. Ond wnaeth Duw ddim stopio yn y fan yna. Ar ôl pedair mlynedd o drio cael babi, trio safio pres ar gyfer ffrwythloni in vitro, cofrestru fel rhieni maeth, ac yn syth ar ôl i dduw agor drws i swydd newydd 16 awr i ffwrdd o'n teulu, atebodd Duw ein gweddïau.
Ar amrantiad, roedd popeth yn wahanol. Roedd fy ngwraig yn feichiog! Ychydig fisoedd yn diweddarach ganwyd ein daeth ein hannwyl Emma i'r byd, a dyfala pwy oedd rhai o'r pobl cyntaf i ni ddweud wrthyn nhw? Ein LifeGroup. Nhw oedd y rhai gariodd ein poen pan oedden ni methu gwneud ar ben ein hunain, a chyda nhw wnaethon ni ddathlu fwyaf!
Felly, beth wyt ti'n ei wynebu heddiw? Os wyt ti'n teimlo'n unig, mae angen i ti wybod nad yw hynny'n wir oherwydd mae Crist yn cerdded gyda ti bob cam o'r ffordd ac yn gosod pobl yn benodol yn ein bywydau i bwrpas. Beth bynnag y boen dŷn ni'n ei brofi, fyddwn ni ddim y cyntaf, na'r olaf. Ond mae gynnon ni Waredwr sy'n agos in calonnau ar ein cyfnodau tywyllaf. Am fod gynnon ni'r gwirionedd i ddal gafael arno, gallwn ni fod yn fynegbost i rywun sydd gymaint mwy na'u tor-calon, rywun all eu cario drwodd a hyd yn oed dod â pwrpas i'w poen. Ei enw yw Iesu.
Ein poen yw ein tystiolaeth. Ein stori ni yw o ffyddlondeb Duw. A thrwy y boen, gallwn drystio yn Nuw gan wybod ei fod yn ein caru ni, ei fod gyda ni, a mae'n fwy na digon.
Jay Porter
Life.Church Keller
Am y Cynllun hwn
Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw a charu'n llawn fel Iesu.
More