Caru Fel IesuSampl
Cenhadaeth Dduw
bendant o hyn.Mae Duw ar genhadaeth. Dw i'n bendant o hyn. Mae Duw yr un mor weithgar heddiw ag y mae wedi bod dros y miloedd o flynyddoedd sydd wedi'i gofnodi'n yr Ysgrythur. Yn y dechrau creodd bopeth mewn harmoni, ffurf, a harddwch. Fodd bynnag, gwrthododd pinacl ei greadigaeth agosatrwydd ddwyfol. Byth oddi ar hynny mae Duw wedi bod yn ein hannog mewn cariad yn ôl ato. Mae e'n rhedeg i mewn i'r adeilad sy'n wenfflam i'n hachub. Mae e'n toddi'r waliau dideimlad ein calonnau pan dŷn ni'n ynysu ac amddiffyn ein hunain o fewn ein hofn, casineb, cywilydd, neu ein hansicrwydd yn ein hunain. Y peth gorau yw, mae e'n ein galw i ymuno ag e ar y genhadaeth hon o obaith.
Ar un tro, gelyn Duw oedden ni, wrth ddewis un o nifer o gau dduwiau. Fe wnaeth e ein caru ni gymaint fel yr anfonodd e ei unig Fab, i ni, ei elyn. Dyma'r esiampl sy'n cael ei gosod i ni. Ein gobaith, ar genhadaeth dŷn ni'n cael ein galw i ymuno â hi yw i garu ein gelynion. Dyna'r peth mwyaf efengylaidd y gallwn ei wneud. Mae e'n fwy na geiriau ac yn fwy na gweithredoedd. Mae e'n ffordd o fyw sy'n cymryd rhan yng nghenhadaeth Duw. Pan fydd byd yn gweld symudiad o bobl sydd gyda digon o hunan-reolaeth i beidio ymladd nôl, digon o drugaredd i ddod o hyd i undod, a digon o ostyngeiddrwydd i adnabod pŵer mewn gwendid, yna fe ddaw y byd i adnabod Duw ar ei ffurf go iawn - croesffurf.
Joey Armstrong
Life.Church Broken Arrow
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw a charu'n llawn fel Iesu.
More