Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Caru Fel IesuSampl

Love Like Jesus

DYDD 2 O 13

Maddeuant Ynghyd

Cefais fy magu mewn eglwys, ond i dweud y gwir, ro'n i'n byw fel bod Duw ddim yn bodoli. Pan ddaeth cyfleoedd i ddangos cariad at eraill yn coleg neu'r gwaith, wnes i ddim eu cymryd. Ro'n i'n ffŵl, hunanol a balch. Wrth edrych yn ôl roedd y dylanwadau pennaf yn fy mywyd yn negatif: y ffrindiau anghywir, perthnasedd gwenwynig, rhyw, pornograffi, a bwydo'r hunan ffals ro'n i wedi'i ddatblygu. Erbyn yr amser ro'n i hanner ffordd drwy coleg, ro'n i'n gwneud pethau hyll dros ben oedd yn difrodi fy nghorff a'm mywyd.

Dyma gamu mlaen i ddyddiau cynnar 2010, rai wythnosau cyn y Pasg. Roedd fy nheulu wedi cael gwahoddiad i fynd i Life.Church. Ar y pryd doedden ni ddim di bod mewn eglwys ers blynyddoedd lawer. Roedd hi'n gyfnod allweddol yn fy mywyd i a bywyd y teulu, a allai'r gwahoddiad yma ddim fod wedi dod ar amser cystal. Fe wnaethon ni gerdded i mewn a chawsom groeso twymgalon gan bawb wnaethon ni deimlo'n dderbyniol. Roedd e'n deimlad nad o'n i wedi'i brofi o'r blaen. Yn ystod y gwasanaeth cyntaf hwnnw ro'n i wedi fy ngorlethu gan gariad a maddeuant Duw am y tro cyntaf yn fy mywyd. Roedd y neges yn siarad am faddeuant, ac ro'n i'n deall y stori am Iesu a'i gariad. Wnes i ddim disgwyl. Penderfynais i gyflwyno fy mywyd i Grist y diwrnod hwnnw. Teimlais Duw yn fy nglanhau o'r holl bethau drwg ro'n i wedi'i wneud, a ro'n i'n berson newydd. Fodd bynnag, nid dyna'r cwbl. Sylweddolais bod angen help arna i. Roedd angen i mi ymuno efo LifeGroup, grŵp bach o bobl i rannu bywyd gyda nhw. Fe wnes i ffeindio grŵp o rai mewn addysg hefyd o'r un oed oedd yn cwrdd ar ddydd Mawrth a dechreuais fynychu. Dyma pryd dechreuodd popeth newid.

Roedd y ffrindiau hyn yn fy ngharu, fy nerbyn, ac yn fwy na dim, sut beth oedd byw i Grist. Wna i fyth anghofio fel wnaeth y grŵp yma fy ngharu fel byddai Iesu wedi gwneud. Cefais fy nerbyn fel o'n i., a'm helpu i oresgyn fy ngorffennol a chofleidio'r bywyd newydd hwn oedd gan dduw ar fy nghyfer. Fe wnaethon nhw ddangos i mi y cariad a chefnogaeth oedd angen arna i ar yr adeg yma yn fy mywyd. Defnyddiodd Duw y grŵp yma o rai'n eu hugeiniau i'm siapio i mewn i'r person ydw i nawr. Wrth gamu mlaen i heddiw, dw i ar staff yr eglwys, ar y tîm grwpiau bach, ac yn cael clywed am fywydau 'n cael eu newid oherwydd cariad Crist. Gall duw newid dy fywyd di, a gan amlaf bydd e'n gwneud hyn drwy'r bobl sydd o'th gwmpas.

Spencer Aston
Life.Church Broken Arrow

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Love Like Jesus

Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw a charu'n llawn fel Iesu.

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv