Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 28 O 28

Pryd gyda’n Prynwr

Darlleniad: Luc 22:17-20

Mae pobl ym mhob cyfnod wedi ystyried cofio yn bwysig – maen nhw wedi codi cofgolofnau, ysgrifennu llyfrau am bobl, rhoi rhoddion hael er cof am rywun, a hyd yn oed adeiladu ysbytai, ysgolion ac yn y blaen.

Meddylia sut oedd Iesu’n teimlo yn ystod y Swper Olaf. Gyda’i 12 disgybl o’i gwmpas, a chysgod y groes uwch ei ben, roedd lesu eisiau i’w blant ei gofio. Roedd yn gwybod yn iawn fod tuedd mewn pobl i anghofio! Felly sefydlodd y pryd bwyd syml ond ystyrlon yma - bara a gwin. Mae’r pryd yma wedi ei ddisgrifio gan un fel coffadwriaeth fyw, gan ei fod yn ein hatgoffa o’r ffaith fod Iesu’n fyw - yr Un fuodd farw, ond sydd yn fyw i dragwyddoldeb! Mae wedi gofyn i ni gofio amdano yn y ffordd arbennig yma mor aml ag sydd bosibl.
Fel disgyblion i lesu Grist dylen ni fwyta o’r bara ac yfed o’r gwin yn rheolaidd - mae’n arwydd o’n perthynas ni gyda’n Harglwydd. Er nad wyt efallai yn deall ei arwyddocâd yn Ilawn, cyfranna o’r swper mewn symlrwydd calon ac yn yr Ysbryd.

Mae’r bara’n cael ei dorri i’n hatgoffa o gorff drylliedig lesu Grist ar y groes; ac mae’r gwin yn arwyddocáu ei waed a dywalltwyd dros ein pechodau. Maen nhw yn ein hatgoffa o gariad diderfyn Duw tuag aton ni yn Iesu Grist, ei Fab.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Gwna’n siwr dy fod yn cofrestru i ddilyn Blas ar y Beibl 3!

Ysgrythur

Diwrnod 27

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.