Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 27 O 28

Darlleniad: 2 Corinthiaid 5:17-21

Pob disgybl yn gennad i Grist

Mae pob disgybl i lesu Grist yn cael ei alw i fod yn ‘llysgennad’. Ystyr llysgennad ydy un sy’n cynrychioli’r brenin mewn gwlad dramor. Gelwir pob Cristion i fod yn llysgennad sy’n cynrychioli ac yn rhannu’r brenin lesu â phawb y mae’n dod ar eu traws o ddydd i ddydd.
Mae gan lysgennad gyfrifoldebau arbennig fel cynrychiolydd ei frenin a’i wlad. Un o’r cyfrifoldebau hyn yw ei fod i drosglwyddo dymuniadau’r brenin i’r bobl y mae’n cyfarfod â nhw. Dyna pam mae unrhyw lythyr sy’n cael ei anfon oddi wrth frenin at ei lysgennad wedi ei selio â hawliau cyfreithiol arbennig. Mae llythyr o’r fath i’w gludo’n uniongyrchol drwy bost awyr i’r wlad lle mae’r llysgennad yn aros, a’i osod ar ddesg y llysgennad heb ei agor o gwbl. Mae’r llysgennad yn cael ei gadw mewn cysylltiad agos bob wythnos (weithiau bob dydd) â’i frenin a’i wlad.

Mae rhywbeth tebyg yn wir amdanon ni sy’n llysgenhadon yn cynrychioli Crist yn y byd. Mae ein Brenin yn anfon ei negeseuon aton ni bob dydd, ac wrth i ni agor ein Beibl ar ddechrau diwrnod newydd dan ni’n darllen neges ein Brenin Nefol i ni. Dyma beth sy’n digwydd wrth i ti ddarllen y Beibl heddiw. Mae dy Frenin — yr Arglwydd Iesu Grist — yn siarad â’th galon drwy ei Air, y Beibl. Mae’n dy atgoffa o dy gyfrifoldebau fel ei lysgennad. Rwyt ti’n llysgennad i Frenin y Brenhinoedd. Mae wedi anfon Ilythyrau atat (y Beibl) sy’n gyfarwyddiadau ar gyfer dy fywyd.

Siarad â rhywun arall am dy Frenin heddiw!

BDGI - addasiad Alun Tudur
Diwrnod 26Diwrnod 28

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.