Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 24 O 28

Darlleniad: Mathew 7:1-5

Planc yn fy llygad

Mae’r darlun mae Iesu’n ei dynnu wrth geisio mynegi’r gwirionedd yma yn siŵr o wneud i ni wenu. Fedri di ddychmygu dyn yn cerdded o gwmpas â phlanc anferth yn ei lygad? Na fedri; ond mae’r gor-ddweud yma’n fwriadol er mwyn pwysleisio pa mor bwysig yw’r gwirionedd mae Iesu’n sôn amdano. Fedrwn ni byth dyfu yn y bywyd Cristnogol a bod yn ddisgybl da i Iesu Grist, tra’n edrych o hyd ac o hyd am sbecyn bach yn llygaid pobl eraill. Os mai dyna ydy’n hagwedd ni, mae’n beryg fod nid yn unig brycheuyn bach, ond melin goed yn ein llygaid ni!

Pan demtir fy nhafod i gario stori gas,
fe’i defnyddiaf i weddïo.
Pan fyn syniadau chwerw feddiannu ʼmeddwl,
fe gofiaf fod y pryfed dinistriol
yn tanseilio fy nhŷ i, nid eiddo ʼnghymydog.
Pan fyddaf mewn tymer ddrwg yn bygwth arall
fe sylweddolaf fod fy arf fel bwmerang
sy’n trywanu fy nghalon.
Pan weddïaf am faddeuant am y gweithredoedd drwg a gyflawnais,
fe gofiaf hefyd am y gweithredoedd da wnes i ddim eu cyflawni.
Pan fedraf, i ryw raddau, fyw'r gredo hon,
gweddïaf am i hynny fod gyda gostyngeiddrwydd,
yn gyfrwng ei gariad Ef.
Credo Raymond Fogerty (cyf.)

BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur

Diwrnod 23Diwrnod 25

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.