Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 25 O 28

Darlleniad: 1 loan 5:11-15

Sicrwydd

Ysgrifennodd loan y Ilythyr hwn er mwyn cryfhau ffydd disgyblion lesu Grist drwy eu helpu i ddeall y Ffydd Gristnogol yn iawn. Mae hyn yn bwysig i ni hefyd, gan fod y diafol yn brysur trwy’r adeg yn ceisio dinistrio ein ffydd yn lesu Grist a gwneud i ni amau’r ffaith ein bod wedi ein hachub. Rhaid i ni wybod sut i ddelio â’r amheuon hyn y mae’r un drwg yn eu sibrwd yn ein clustaiu.

Y ffordd orau i wneud hyn yw trwy gredu’n llwyr yng ngwirionedd Gair Duw. Edrych ar yr adnod unwaith eto: “Dwi wedi ysgrifennu hyn i gyd atoch. . . er mwyn i chwi wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol.” Os credwn Air Duw, yna fyddwn ni byth yn amau realiti’r ffaith ein bod wedi’n hachub. Mae mor syml â hyn - rwyt un ai’n credu beth mae Duw yn ei ddweud neu’n credu beth mae’r diafol yn ei ddweud. Os wyt yn credu beth mae Duw yn ei ddweud, yna mae gen ti sicrwydd. Os wyt yn credu beth mae Satan yn ddweud, yna rwyt yn amau.

Pwy wyt ti’n mynd i’w gredu? Mae hanes am un Cristion ifanc a aeth adre’r noson y derbyniodd lesu Grist i’w fywyd, a chyn mynd i’w wely darllenodd y geiriau hyn yn ei Feibl: “Yr hwn y mae’r Mab ganddo, y mae’r bywyd ganddo.” Meddai’r bachgen “Diolch i Dduw fy mod yn siŵr fy mod wedi f’achub, mae’r Beibl yn dweud hynny.” Yn ystod y nos fe sibrydodd y diafol yn ei glust “Dwyt ti ddim wedi dy achub - stori wrach yw’r cwbl.” Rhoddodd y golau ymlaen, agorodd ei Feibl, pwyntiodd at yr adnod, a dywedodd wrth y diafol “Dyma beth mae Duw yn ei ddweud - darllen o dy hun!”

Bydd di’n gryf heddiw, a gofyn i Dduw dy helpu i beidio â gwrando ar y diafol.

BDGI - addasiad Alun Tudur
Diwrnod 24Diwrnod 26

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.