Blas ar y Beibl 2Sampl
Darlleniad: Mathew 6:25-34
Wyt Ti’n Tyfu?
Pwrpas y darlun yma o’r lili ydy dangos sut mae’n tyfu. Oni bai ei bod yn tyfu a datblygu, ni fyddai’n flodyn mor hardd. Sut mae’r lili’n tyfu felly? Yn sicr nid trwy ymdrech wyllt! Mae’n derbyn yr heulwen a’r glaw, ac yn ddistaw bach, heb unrhyw ffws, mae’n tyfu! Dyma sut y dylet ti dyfu yn dy brofiad fel Cristion. Elli di ddim penderfynu’r funud yma dy fod yn mynd i dyfu mwy fory nag a wnest ti ddoe - nid fel yna mae tyfiant yn digwydd. Y cwbl sydd raid i ti ei wneud ydy ymostwng yn llwyr i’r un sy’n peri’r tyfiant.
Efallai y byddai’n syniad da i ni holi ein hunain o bryd i’w gilydd ac ystyried faint ydyn ni wedi tyfu’n ysbrydol. Gofyn gwestiynau fel y rhain i ti dy hun: Ydw i yn treulio mwy o amser yn gweddïo nag o’r blaen? Ydy Gair Duw, y Beibl, yn rhoi’r un wefr i mi ag o’r blaen? Ydw i yn ei chael hi’n haws i ddeall Gair Duw? Ydw i bob amser yn awyddus i faddau i eraill? Ydw i yn caru aelodau’r eglwys yn fwy nag o’r blaen? Dim ond ychydig yw’r rhain o lawer o gwestiynau y medrwn ni eu gofyn i ni ein hunain.
Cofia dwyt ti ddim yn tyfu trwy dy ymdrechion dy hun. Gwna'r hyn y mae Duw am i ti ei wneud - darllen ei Air, treulia amser gyda’th Dad Nefol mewn gweddi, rhanna’i gariad o gydag eraill o ddydd i ddydd yn dystiolaeth. Os gwnei hyn fe fyddi’n tyfu’n naturiol.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.