Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 26 O 28

Darlleniad: 2 Corinthiaid 4:7-13

Heb ein llethu

Roedd yr Apostol Paul yn sicr yn un o’r enghreifftiau gorau o’r hyn ddylai disgybl fod. Roedd yn sylweddoli, oherwydd ei berthynas â Iesu Grist, na fyddai Duw yn caniatáu i unrhyw beth ddigwydd iddo oni bai fod y peth hwnnw yn gogoneddu Duw a chyflawni ei bwrpas. Onid ydy hynny’n ffaith fendigedig! Os nad yw Duw’n mynd i ganiatáu i unrhyw beth ddigwydd i ni heb iddo allu ei droi i fod er ein lles ni a’i ogoniant ef, yna gallwn wynebu ein holl broblemau yn hyderus a does dim rhaid digalondi.

Mae’r gwirionedd yma, yn wir, yn un o wirioneddau mwyaf gwefreiddiol y Testament Newydd. Petaet ti’n byw oesoedd lawer wnei di ddim darganfod unrhyw wirionedd mwy ymarferol na’r ffaith fod Duw yn ein caru ni gymaint wnaiff o ddim caniatáu i unrhyw beth ddigwydd i un o’i blant onibai ei fod yn rhagweld y gall droi hynny i fod er lles ym mywyd y person hwnnw. Dyna pam y gallai Paul ddweud ein bod ni’n cael ein taro i lawr, ond yn cael ein codi yn ôl ar ein traed bob tro (1 Corinthiaid 4:9).

Pa broblemau bynnag sydd raid i ti eu hwynebu heddiw, a pha mor anobeithiol bynnag mae’r sefyllfa’n ymddangos, cofia dy fod yn blentyn i Dduw, ac na fydd o’n caniatáu i’r cwbl dy lethu’n llwyr. Felly, dos allan i wynebu dy broblemau gan wybod na all dim dy orchfygu os wyt yn wir yn perthyn i’r Arglwydd Iesu Grist.

BDGI - addasiad Alun Tudur
Diwrnod 25Diwrnod 27

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.