Blas ar y Beibl 2Sampl
Darlleniad: Salm 55:16-23
Pwyso ar yr Arglwydd
Roedd cenhadwr yn siarad â grŵp o Affricanwyr, ac roedd arno angen darlun er mwyn eu dysgu am bwysigrwydd ymddiried yn llwyr yn Nuw. Yn y pellter gwelai fachgen ifanc yn dringo coeden balmwydd i gasglu ei ffrwyth. Tynnodd y cenhadwr sylw ei wrandawyr at y bachgen, a dyma ddywedodd: “Petai’r bachgen ifanc acw’n ceisio dringo’r goeden trwy ei nerth ei hun yn unig fe flinai’n lân cyn cyrraedd y top. Sylwch fel mae wedi plethu rhaff gref a’i rhwymo o’i gwmpas i’w helpu i ddringo. Wrth bwyso ar y rhaff gall ddringo’r goeden yn saff, casglu’r ffrwyth, a disgyn yn ôl heb flino. Mae hyn yn bosibl am ei fod yn gallu gosod ei bwysau i gyd ar y rhaff.”
Mae’n bwysig i bob disgybl i Iesu Grist ddysgu’r wers yma’n fuan. Mae Duw yn addo i ni y byddwn yn derbyn nerth a chryfder lesu Grist ei hun os rhown ein holl faich arno. Rhaid i ni ddysgu ymddiried yn llwyr yn ei nerth o wrth weithio trosto a thystiolaethu iddo. Mae Duw am i ti wneud dy ran yn ei wasanaethu, ond cofia – mae o’i hun yn cymryd y baich ar ei ysgwyddau.
Diolcha iddo heddiw ei fod wedi dangos i ti’r gyfrinach sut i fyw'r bywyd Cristnogol. Gweddia y bydd yn dy alluogi i bwyso’n llwyr arno fo.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.