Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 20 O 28

Darlleniad: Luc 16:1-10

Pethau bach

Mae hanes enwog am ddyn a oedd yn un o swyddogion y Trysorlys yn Ffrainc yn dechrau ei yrfa pan gododd bin oddi ar y llawr. Digwyddodd fel hyn: Pan oedd yn fachgen fe geisiodd gael swydd mewn banc ac fe’i gwrthodwyd. Ar ei ffordd allan fe arhosodd i godi pin oddi ar y llawr: Gwelodd rheolwr y banc hyn, a’i alw’n ôl a chynnig y swydd iddo. Gwelodd rheolwr y banc fod y bachgen yma’n gofalu am fanylion bach, ac fe gododd yn un o drysoryddion mwyaf Ffrainc.

Faint o sylw wyt ti’n ei roi i bethau lleiaf bywyd? A wyt yn eu diystyru ac yn cymryd sylw o bethau mawr a phwysig bywyd yn unig? Os felly, gall hyn fod yn rhybudd i ti wylio dy fywyd yn ofalus. Dysgodd lesu ei bod yn bwysig i ni fod yn gywir yn y pethau lleiaf, ac yna gall ymddiried pethau mwy i ni. Mae yna lawer o Gristnogion sydd byth yn llwyddo i wneud dim byd mawr dros lesu Grist am nad ydyn nhw wedi bod yn ffyddlon yn y pethau bach. Mae Duw yn gwylio dy fywyd di’n ofalus. Mae ganddo gynlluniau mawr ar dy gyfer. Os wyt i’w cyflawni, cofia bwysigrwydd y pethau bach.

DioIch i ti Arglwydd am ddysgu i mi bwysigrwydd y pethau bach. Dw i o ddifri am fod yn ffyddlon i ti a dw i’n gofyn am ras arbennig i’m nerthu drwy’r dyddiau anodd hyn o brofi er mwyn i mi fedru gwneud pethau mwy drosot ti.

BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur

Diwrnod 19Diwrnod 21

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.