Blas ar y Beibl 2Sampl
Darlleniad: Hebreaid 10:19-25
Cadw’r fflam yn llosgi
Dywedodd Cristion ifanc wrth ei weinidog unwaith “Ond d’oes dim rhaid i mi ddod i’r capel yn rheolaidd i fod yn Gristion da.” Ddywedodd y gweinidog ddim. Aeth draw at y lle tân a thynnu telpyn o lo a oedd yn llosgi’n goch allan o’r tân a’i osod ar un ochr. Yn fuan iawn roedd y darn o lo, a oedd yn llosgi’n goch yn y tân, wedi oeri a diffodd. Trodd y gweinidog at y bachgen ifanc - “Yn union fel y diffoddodd y darn yna o lo wedi ei gymryd allan o’r tân, felly y bydd y fflam sydd ynot ti yn diffodd os wyt yn tybio y gelli wneud heb yr Eglwys.”
Wrth gwrs os ydy rhywun yn wael iawn yn yr ysbyty, neu yn achos y bobl hynny mewn rhai gwledydd sydd wedi eu carcharu oherwydd eu ffydd, mae Duw yn rhoi nerth arbennig. Ond ei batrwm i bob Cristion yn gyffredinol yw y dylent gyfarfod â’i gilydd mor aml ag sydd bosibl i adeiladu a gofalu am ei gilydd mewn un gymdeithas glos. Allwch chi ddim disgrifio’n llawn beth sy’n digwydd pan ddaw credinwyr at ei gilydd yn enw lesu i addoli, gweddïo, dysgu ei Air a’i foliannu. Ar hyd y canrifoedd mae eglwys Iesu Grist wedi cael nerth goruwchnaturiol yr Ysbryd Glân i gyflawni ei chomisiwn. Os ydyn ni am fod yn wir ddisgyblion rhaid i ni beidio ag esgeuluso’r moddion gras y mae Duw wedi ei gynnig i ni. Dylen ni ddod at ein gilydd mor aml ag sy’n bosibl yn enw lesu.
Diolch, O Dad, am ddangos i mi heddiw mor bwysig yw cymdeithas corff Iesu Grist. Rwyf mor falch fy mod yn aelod o’r corff yma. Nertha fi i ddatblygu a meithrin perthynas gariadus â phob un sy’n perthyn i’th gorff di. Amen.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.