Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 18 O 28

Darlleniad: Diarhebion 11:24-28.

Rhoi mwynhad

Un cyfieithiad posibl o’r adnod hon yw “Bydd y sawl sy’n adfywio eraill yn cael ei adfywio ei hun.” Mae’r dyddiau yma rydyn ni’n byw ynddynt yn ddyddiau caled ac anodd yn hanes y ddynoliaeth. Da ni yn gweld y sylfeini’n rhwygo wrth i ddynion a merched geisio dim byd ond pleser a mwynhad iddyn nhw eu hunain, ac anwybyddu anghenion pobl eraill. Mae’r adnod yma, felly yn cyffwrdd â gwraidd y broblem - er gwaetha’r cwbl sy’n cael ei honni’r dyddiau hyn, y Beibl sy’n cynnig yr unig ffordd i brofi gwir lawenydd a bywyd Ilawn.

Clywais sôn am yrrwr tacsi a ddaeth i adnabod Crist fel ei Achubwr, ac fe ddaeth newid mawr i’w fywyd. Yn lle dim ond codi pobl a’u cludo am dâl arbennig, fe benderfynodd gynnig mwy iddyn nhw. Yn ei dacsi mae’n cadw papur newydd er mwyn i’w gwsmeriaid gael rhywbeth i’w ddarllen. Mae hefyd wedi gosod drych, crib a brwsh i bobl gael tacluso eu hunain cyn mynd i gyfarfod pwysig. Ar ddiwrnodau gwlyb mae’n cadw ymbarél ac mae’n mynd allan o’r tacsi i sicrhau nad yw ei gwsmeriaid yn gwlychu wrth fynd i mewn ac allan. Pam mae’n gwneud hyn i gyd? Am ei fod yn gwybod fod rhai pethau na ellir eu prynu ag arian - gwên a charedigrwydd, neu werthfawrogiad cynnes y person bodlon sy’n eistedd yn ei dacsi. Dydy’r galon ddynol yn ymateb i ddim llai na chariad. Mae Crist yn edrych am ddisgyblion sy’n gwybod sut i roi. Rho rywbeth ohonot dy hun i eraill yn ei enw ef heddiw!

Gweddia y bydd Duw yn dy helpu di heddiw i roi yn lle dim ond cymryd.

BDGI - addasiad Alun Tudur
Diwrnod 17Diwrnod 19

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.