Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 17 O 28

Darlleniad: Luc 6:30-38

Rhoddwr hael

Flynyddoedd yn ôI, yn anialwch Nevada, Unol Daleithiau America, yr oedd hen ffynnon. Byddai teithiwr sychedig yn gweld yr hen bwmp ac yn ceisio gweithio’r peiriant i godi dŵr. Ond fyddai dim dŵr yn dod! Yna sylwodd y teithiwr ar ddarn o bapur brown wedi ei osod mewn hen dun rhydlyd wrth ochr y pwmp. Mae’n ei godi ac yn darllen y geiriau hyn: “Adeiladwyd y pwmp hwn yng Ngorffennaf 1928. Erbyn yr adeg y byddwch chi am ei ddefnyddio efallai y bydd y washer rwber wedi gwisgo, a bydd rhaid adnewyddu’r pwmp. Dan y garreg wen rwyf wedi cuddio potel o ddŵr, yr union beth sydd ei angen i adnewyddu’r pwmp. Os yfwch ychydig o ddŵr cyn ei ddefnyddio i adnewyddu'r pwmp, hwnnw fydd yr unig ddŵr a gewch chi, gan na fydd y pwmp yn gweithio. Pan fyddwch wedi gwneud popeth rwy’n ei ddweud, cofiwch lenwi’r botel ddŵr a’i gadael gyda’r nodyn hwn i’r teithiwr sychedig nesaf.” - Desert Sam.

Yn union fel roedd yn rhaid tywallt dŵr i mewn i hen bympiau dŵr cyn iddyn nhw weithio, rhaid i ninnau Gristnogion fentro mewn ffydd cyn i’r pwmp ysbrydol ddechrau gweithio. Mae hyn yn arbennig o wir am y ffordd rydyn ni’n byw. Dywedodd Iesu “Rhowch” (hynny yw, rhowch chi gyntaf)...“ac fe roir i chwi.” Dysga dithau roi i Dduw, er mai ychydig o arian poced sydd gen ti, oherwydd wrth i ti roi y bydd Duw yn rhoi yn ôI i ti.

Arglwydd, dw i eisiau dysgu’r ffordd iawn i roi. Helpa fi i beidio â rhoi gyda’r unig amcan o gael yn ôI. Dangos i mi’n glir fod rhoi yn wedd bwysig ar fod yn ddisgybl i ti.

BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur

Diwrnod 16Diwrnod 18

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.