Logo YouVersion
Eicon Chwilio

'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn PechodSampl

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

DYDD 10 O 10

Mae Angen Duw ar Ein Calonnau

Dyma ddegfed diwrnod a diwrnod olaf ein hastudiaeth o’r “galon.” Ar ôl popeth dŷn ni wedi edrych arno, mae un cwestiwn olaf y mae angen i ni ei ofyn. Allwn ni newid ein calonnau ein hunain?

A ydyn ni’n gallu gwneud y gwaith mewnol o drawsnewid calon sy’n angenrheidiol i ddilyn Duw, addoli Iesu, a gwrando ar yr Ysbryd? Yr ateb yw na.

Dŷn ni’n dod o hyd i ddatganiad rhyfedd iawn yn llyfr Deuteronomium ar ôl i Dduw roi i bobl Israel yr holl ddeddfau y byddai angen iddyn nhw gadw mewn cymdeithas ag e.

“Ond dydy'r Arglwydd ddim wedi rhoi'r gallu i chi ddeall y peth hyd heddiw. Does gynnoch chi ddim llygaid sy'n gweld na chlustiau sy'n clywed.” (29:4).

Allai Israel ddim deall pethau Duw, ac allen nhw ddim gwrando go iawn ar ei orchmynion yn y fath fodd fel y bydden nhw’n ufuddhau iddyn nhw. Pam? Am nad oedd eu calonnau yn iawn.

Ar ôl yr adnod hon, mae Duw yn dweud wrthyn nhw eu bod nhw, yn y dyfodol agos, yn mynd i dorri ei gyfamod a syrthio dan ei ddigofaint. Ac yn ddigon sicr, wrth inni ddarllen gweddill y Beibl, dŷn ni’n sylweddoli mai dyma’n union sy’n digwydd.

Felly pa obaith oedd ganddyn nhw? Pa obaith sydd gynnon ni? Os dŷn ni ddim yn gallu dilyn gorchmynion Duw ac aros mewn perthynas iawn ag e, beth ydyn ni, a nhw, i'w wneud?

Mae angen calonnau newydd arnon ni.

Diolch byth, ym mhennod nesaf Deuteronomium mae Duw yn gwneud addewid i drwsio ein calonnau. Dyma ein testun ar gyfer heddiw.

Mae Duw yn dweud y bydd yn enwaedu ar ein calonnau, er mwyn inni ei garu. Rhaid i Dduw ei hun gyflawni llawdriniaeth fewnol arnom ni, a bydd yn gwneud hynny. Bydd yn newid ein calonnau.

Dyma mae Iesu yn ei wneud droson ni trwy waith yr Ysbryd Glân. Os wyt ti wedi rhoi dy ffydd yn Iesu a'i Efengyl, yna rwyt ti eisoes wedi profi rhan o'r gwaith hwn. Allwn ni ddim credu yn Iesu heb y gwaith mewnol hwn gan yr Ysbryd Glân.

Mae Duw yn parhau i weithio arnon ni bob dydd hefyd. Mae'n gweithredu ar ein calonnau bob dydd. Ac y mae pwynt y gweithrediad yn cael ei adrodd i ni yn yr adnod hon: fel ein bod yn ei garu â'n holl galon.

Wyt ti eisiau newid dy galon? Galwa allan ar Dduw a gofyn iddo i’w newid. Dim ond fe all ei wneud.

Yr unig beth arall i'w wneud yw bwrw dy holl gariad ar Dduw trwy Grist. Ystyria bopeth y mae wedi ei wneud i ti ar y groes. Meddylia am y ffaith ei fod yn dod yn ôl i fyw ynot ti am byth. Wrth i'th gariad at Dduw dyfu, bydd dy galon yn parhau i newid.

Llawenha yn yr Efengyl, a bydd Duw yn adnewyddu dy galon.

Am ragor ar y syniad hwn, dw i’n dy wahoddaf i edrych ar fy llyfr “Rewire Your Heart.”

Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar y llyfr 'Rewire Your Heart', bydd yr olwg deg diwrnod hwn ar rai o’r adnodau pwysicaf am dy galon yn dy helpu i ddarganfod sut i frwydro yn erbyn pechod trwy ganiatáu i’r Efengyl ddargyfeirio dy galon.

More

Hoffem ddiolch i Spoken Gospel am ddarparu'r cynllun hwn. am fwy o wybodaeth dos i https://bit.ly/2ZjswRT