'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn PechodSampl
Mae Popeth yn Dod O'r Galon
Mae popeth dŷn ni'n ei wneud yn dod o'n calonnau.
Mae un o’r ffyrdd mwyaf cryno mae’r Beibl yn datgan y gwirionedd hwn i’w gael yn Diarhebion 4:23. Mae modd datgan y syniad mor gryno oherwydd ei fod yn cynnwys dau drosiad. Mae'r trosiad cyntaf yn eithaf cyfarwydd i ni - dy galon.
Ym meddwl awdur y Diarhebion a'i wrandawyr gwreiddiol, y galon yw canolbwynt person. Mae'r galon yn cynnwys y meddyliau, gwirfodd, cydwybod a mwy.
Dydy'r ail drosiad ddim yn ofnadwy o anodd ei ddeall ychwaith. Mae'n cyfuno dau air yn yr iaith wreiddiol Hebraeg. Mae'r gair cyntaf yn cyfleu'r syniad o'r lle y mae pethau'n dechrau: eu ffynhonnell, man cychwyn, neu'r man lle mae pethau'n dod allan. Mae'r ail air yn cyfleu bywyd. Felly mae'r trosiad fel afon bywyd neu'r man lle mae pob bywyd yn llifo.
Cyfuna’r ddwy ddelwedd a chei lun o'r holl fywyd yn llifo allan o fan cychwyn y galon.
Yn ôl yr adnod hon, yr hyn dŷn ni’n ei garu a'i gasáu, ein tueddiadau a'n teimladau, ein dyheadau a'n hemosiynau sy'n ysgogi popeth dŷn ni’n ei wneud.
Yn seiliedig ar y ffaith hon, mae awdur y Diarhebion yn ein hannog i warchod ein calonnau. Sut ydym ni'n gwneud hynny? Yng nghyd-destun y llyfr hwn, mae'r ateb yn syml: chwilia am ddoethineb.
Mae llyfr y Diarhebion yn llawn o bethau i gadw draw oddi wrthyn nhw a phethau i'w dilyn. Ond yn anad dim, mae angen inni nodi mai cymeriad yw “doethineb” yn y Diarhebion. Mae hi'n berson dŷn ni'n chwilio amdani ac sy'n dod atom ni.
Mae ysgolheigion Beiblaidd wedi nodi ers tro mai Iesu yw’r ymgorfforiad olaf o ddoethineb. Fe yw'r un sy'n datgelu Duw i ni. Fe yw'r un sy'n newid ein calonnau â'i Ysbryd. Fe yw Gair Duw sy'n dod atom ni. Fe yw wyneb Duw a geisiwn.
Sut mae gwarchod ein calonnau? Dŷn ni’n chwilio am Iesu. Llawenhawn yng ngwirionedd yr Efengyl. Myfyriwn ar ddawn y groes. Llawenhawn yng ngrym yr atgyfodiad. Gwrandawn ar ddysgeidiaeth ei wefusau. Dilynwn lais ei Ysbryd. Disgwyliwn yn eiddgar am ddychweliad ei bresenoldeb llawn a therfynol.
Mae popeth a wnei yn dod o'r galon. Wyt ti eisiau newid yr hyn rwyt ti'n ei wneud? Dos ar ôl Iesu a bydd yn gwarchod dy galon.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar y llyfr 'Rewire Your Heart', bydd yr olwg deg diwrnod hwn ar rai o’r adnodau pwysicaf am dy galon yn dy helpu i ddarganfod sut i frwydro yn erbyn pechod trwy ganiatáu i’r Efengyl ddargyfeirio dy galon.
More