Logo YouVersion
Eicon Chwilio

'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn PechodSampl

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

DYDD 4 O 10

Dydy Pechod ddim yn Dod o Demtasiwn

Tyfais i fyny gan feddwl mai temtasiwn oedd o ble roedd pechod yn dod. Ar unrhyw ddiwrnod penodol, byddwn yn mynd o gwmpas fy musnes ac yna byddai temtasiwn yn dod yn fyw: byddai merch bert yn cerdded heibio, byddai ffrind yn lansio i mewn i jôc fudr, byddai copi o brawf yr wythnos nesaf yn disgyn yn fy nwylo. Fy nyletswydd, yn y fan a'r lle, oedd brwydro yn erbyn temtasiwn trwy ddweud na wrtho neu ffoi oddi wrthi yn gyfan gwbl. Temtasiwn oedd y gelyn. Roedd cael fy nhrechu yn golygu pechod.

Ond nid temtasiwn yw'r broblem. Mae'r broblem wirioneddol yn y galon lle mae ein dyheadau.

Dydy temtasiwn ddim yn gallu bodoli os nad oes chwant yn bodoli gyntaf.. Fedri di ddim cael dy demtio i wneud rhywbeth nad wyt ei eisiau yn gyntaf.

Mae’r Beibl yn dysgu bod chwant yn achosi temtasiwn. “Eu chwantau drwg eu hunain sy'n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd. 15 Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, a'r gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol.” (1:14-15). Pryd mae temtasiwn yn digwydd? Wedi i'r chwantau ein hudo. Nid yw temtasiynau yn cynhyrchu chwantau, ond chwantau yn cynhyrchu temtasiynau.

Dydy temtasiwn ddim yn gallu bodoli os nad oes chwantau yn bodoli. Fedra i ddim dy demtio i fwyta concrit, os nad oes rhywbeth dymunol o fwyta’r concrit o’th fewn. Gan dy fod yn gwybod y byddai bwyta concrit, nid yn unig yn annymunol, ond yn niweidiol i'th gorff, fyddai'r demtasiwn byth yn llwyddo. Yn wir, dydy o ddim yn demtasiwn go iawn. Fedri di ddim galw rhywbeth yn demtasiwn sydd ddim yn ddymunol o gwbl. Er mwyn i demtasiwn fodoli, rhaid i chwant fodoli yn gyntaf.

Y cyfan y gall temtasiwn ei wneud yw tynnu sylw at y cyfle i gyflawni dyheadau sy’n bodoli’n barod. Meddylia am y gwawd cyfarwydd a gynigir gan demtwyr, “Rwyt ti'n gwybod dy fod ei eisiau.” Mae temtasiwn yn dal gwrthrych ein dymuniad i fyny ac yn ceisio ei wneud yn fwy dymunol fyth.

Dim ond pan fyddwn yn canolbwyntio ar ein dyheadau mewnol yn lle ein temtasiynau allanol y byddwn yn mynd i'r afael â phechod ar lefel ddyfnach. Dim ond pan fyddwn ni'n edrych ar yr hyn dŷn ni ei eisiau, nid dim ond yr hyn dŷn ni'n ei wneud, y byddwn ni'n dod yn nes at ble mae'r frwydr dros bechod yn digwydd mewn gwirionedd.

A sut mae newid yn digwydd ar y lefel ddyfnach hon? Sut mae dymuniadau ein calon yn cael eu trawsnewid? Fel y gwelsom trwy gydol yr astudiaeth hon, yr unig ffordd y gellir newid y galon yw trwy'r Efengyl. Mwynha Iesu, a bydd yn newid dy galon.

Duw yn unig all ddod â'r newid hwn. Felly bydded inni ddilyn geiriau Iago yn ddiweddarach yn ei lythyr, “Closiwch at Dduw a bydd e'n closio atoch chi.” (4:8).

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar y llyfr 'Rewire Your Heart', bydd yr olwg deg diwrnod hwn ar rai o’r adnodau pwysicaf am dy galon yn dy helpu i ddarganfod sut i frwydro yn erbyn pechod trwy ganiatáu i’r Efengyl ddargyfeirio dy galon.

More

Hoffem ddiolch i Spoken Gospel am ddarparu'r cynllun hwn. am fwy o wybodaeth dos i https://bit.ly/2ZjswRT