Logo YouVersion
Eicon Chwilio

'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn PechodSampl

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

DYDD 8 O 10

Yr Hen Destament a’r Testament Newydd

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng yr Hen Destament a'r Testament Newydd?

Y peth cyntaf i dynnu sylw ato yw bod y gair “testament” yn golygu “cyfamod.” Felly'r cwestiwn go iawn yw, beth yw'r gwahaniaeth rhwng yr hen gyfamod a'r cyfamod newydd?

Y gwir yw bod sawl gwahaniaeth. Ond y gwahaniaeth mawr, a godwyd gan Jeremeia 31:31-34, yw’r galon.

Yr hen gyfamod yw'r un gafodd ei roi i Moses a phobl Israel ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft. Daeth y cyfamod hwn â chyfraith. Roedd y cyfamod yn cynnwys deg gorchymyn enwog. Pe bai Israel yn cadw’r gyfraith bydden nhw’n cael byw ym mhresenoldeb Duw mewn perthynas ag e.

Fodd bynnag, wnaeth Israel ddim cadw’r cyfamod o gwbl. Roedden nhw’n torri Cyfamod Duw yn gyson.

Pam na allen nhw gadw'r cyfamod? Am fod y gyfraith y tu allan iddyn nhw. I’n trio Doedd hi ddim o’u mewn.

Byddai'r cyfamod newydd yn wahanol. Byddai Duw yn ysgrifennu cyfraith y cyfamod hwn ar galonnau ei bobl. Byddai y tu mewn iddynt.

All cyfreithiau ar y tu allan ddim newid y tu mewn. Rhaid cael newid ar y tu mewn i ufuddhau i'r gyfraith ar y tu allan.

Dŷn n newid ein hunain gyda dylanwadau allanol drwy'r amser. Trwy bob math o reolau, disgyblaethau, arferion a chyfyngiadau, dŷn ni’n trio newid ein gweithredoedd. Dŷn ni’n trio brwydro yn erbyn pechod, troi’n sanctaidd, a thrawsnewid ein hymddygiad trwy ddeddfau allanol i ni ein hunain. Ond fydd hyn byth yn gweithio.

All cyfreithiau ddim newid calonnau.

Felly sut mae Duw yn defnyddio'r cyfamod newydd i newid ein calonnau? Mae'n cyflawni holl ofynion y cyfamod i ni yn Iesu. Bu farw Iesu dan felltith y gyfraith wnaethon ni ei hennill a rhoddodd inni fendithion y cyfamod a enillodd. Gwnaeth hyn ar gost ei fywyd ar y groes. Mae aberth o'r fath yn symud ein calonnau mewn ffordd newydd.

Ond nid dim ond trwy glywed y stori hon am yr Efengyl y mae ein calonnau'n cael eu newid. Mae'n rhaid i rywbeth arall ddigwydd. Wedi'r cyfan, cafodd yr Israeliaid eu hachub o'r Aifft ac arhosodd eu calonnau'n galed tuag at Dduw.

Roedd yn rhaid i rywbeth ddigwydd ynom ni. Dyna pam mae Duw yn rhoi'r Ysbryd Glân inni. Mae'r Ysbryd yn newid ein calonnau i wir gredu'r efengyl, mwynhau'r efengyl, ac ymateb i Dduw oherwydd yr Efengyl.

Y gwahaniaeth rhwng yr Hen Destament a'r Testament Newydd yw bod y cyfamod newydd yn newid ein calonnau, fel y gallwn o'r diwedd ufuddhau i Dduw yn rhydd.

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar y llyfr 'Rewire Your Heart', bydd yr olwg deg diwrnod hwn ar rai o’r adnodau pwysicaf am dy galon yn dy helpu i ddarganfod sut i frwydro yn erbyn pechod trwy ganiatáu i’r Efengyl ddargyfeirio dy galon.

More

Hoffem ddiolch i Spoken Gospel am ddarparu'r cynllun hwn. am fwy o wybodaeth dos i https://bit.ly/2ZjswRT