'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn PechodSampl
Rwyt wedi dal dy gariad yn ôl
Beth sy'n achosi inni bechu? Beth sy'n ein symud i sancteiddrwydd? Pa ran ohonom sy'n ysgogi cred? Beth yw y tu mewn i ni sy'n creu amheuaeth? Dim ond un peth sydd - ein calonnau.
Felly beth yw'r brif broblem yn ein brwydr yn erbyn pechod a'n diffyg ffydd? Fel hyn y mae Paul yn dweud yn ein darn am heddiw:
“Dŷn ni ddim yn dal ein cariad yn ôl, chi sy'n dal yn ôl.”
Yn y sylw byr hwn, yn ôl pob golwg, mae Paul yn mynd at graidd y broblem - y galon.
Yn y bennod hon, mae Paul yn ymbil ar y Corinthiaid i gredu'r Efengyl. Mae wedi gwneud popeth o fewn ei allu i rannu newyddion da Iesu gyda nhw, ond mae yna bobl yn dal i lusgo eu traed. Pam?
Maen nhw’n dal eu cariad yn ôl.
Sut ydyn ni’n dal ein cariad yn ôl? Mae'n syml mewn gwirionedd. Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw beth dydyn ni ddim eisiau ei wneud. Dŷn ni ond yn gwneud beth dŷn ni eisiau ei wneud.
Nawr, nid yw hynny'n golygu mai dim ond pethau dŷn ni'n eu hoffi neu'n well gynnon ni eu gwneud. Mae'n golygu bod ein gweithredoedd bob amser yn dilyn dymuniad cyffredinol ein calon. Dyna pam, trwy gydol y Beibl, mae Duw yn bennaf ar ôl ein calonnau.
Dŷn ni’n dal ein cariad yn l drwy’r adeg.. Does dim llawer o frwdfrydedd gynnon ni. Dyna pam dŷn ni’n amau. Dyna pam dŷn ni'n brwydro â'n ffydd ac yn parhau fel ydyn ni.
Felly sut gallwn ni newid? Sut gallwn ni guro pechod a byw i Dduw? Rhaid inni beidio dal ein cariad yn ôl.
Yr unig ffordd o wneud hyn yw trwy'r Efengyl. Dim ond yr Efengyl sy'n ddigon prydferth i newid ein calonnau a chynhyrchu ynddi'r holl gariad a fydd yn peri inni fyw bywydau newydd.
Myfyria ar bopeth a wnaeth Duw drosot ti yng Nghrist. Llawenha fod dy bechodau wedi eu maddau trwy werthfawr waed Mab Duw. Ymhyfryda yn y gwirionedd dy fod wedi dy fabwysiadu i deulu Duw am bris uchel y groes.
Pan fyddwn yn gwneud hyn, bydd serchiadau newydd yn dod yn fyw yn ein calonnau. Dŷn ni ddim yn ymladd pechod trwy fygu ein dymuniadau a'n teimladau. Dŷn ni'n ymladd pechod trwy beidio dal ein cariad yn ôl. Mae angen inni deimlo mwy, nid llai. Ac mae angen i'r teimladau hyn ddod o'r Efengyl.
Trwy gydol yr astudiaeth hon, byddwn yn gweld sut mae popeth yn dod i lawr i'r galon. Am ragor o wybodaeth dw i’n dy wahodd i gael fy llyfr llawn ar y pwnc hwn: Rewire Your Heart.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar y llyfr 'Rewire Your Heart', bydd yr olwg deg diwrnod hwn ar rai o’r adnodau pwysicaf am dy galon yn dy helpu i ddarganfod sut i frwydro yn erbyn pechod trwy ganiatáu i’r Efengyl ddargyfeirio dy galon.
More