'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn PechodSampl
Ymladd Pechod Gyda Llawenydd
Pan fydd amseroedd yn mynd yn anodd iawn mae'n dod yn llawer haws pechu. Mae Salm 37 yn ymwneud â sut i ddyfalbarhau yn ystod cyfnod anodd iawn.
Mae’r Salmydd, Dafydd, yn cofnodi bod pobl ddrwg yn gwneud pethau ofnadwy. Sut dylai Dafydd a'r bobl ymateb? Dywed Dafydd y dylem ymateb gyda llonyddwch, amynedd, a ffydd.
Ond sut mae hynny hyd yn oed yn bosibl? Sut allwn ni eistedd yn llonydd a derbyn beth ddaw arnom? Sut gallwn ni fod yn llonydd pan fydd popeth yn chwyrlïo o'n cwmpas? Sut gallwn ni fod yn amyneddgar pan fydd popeth yn mynd o'i le? Sut gallwn ni gael ffydd pan fydd pob gobaith yn ymddangos fel pe bai ar goll?
Mae llawer o gyngor da yn y Salm hon i ateb y cwestiynau hyn. Ond mae un o’r rhai mwyaf prydferth, cymwynasgar ac enwog i’w gael yn Salm 37:4.
“ Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser, a bydd e'n rhoi i ti bopeth wyt ti eisiau..”
Mae'r adnod hon mor ddefnyddiol am ddau brif reswm.
Yn gyntaf, does dim rhaid i ddyfalbarhad ac ymladd pechod fod yn berthynas drist. Dŷn ni’n cael ein galw i ddod o hyd i lawenydd! Ond ble gawn ni hyd i’r llawenydd hwn dan amgylchiadau mor llwm? Allwn ni ddim dod o hyd iddyn nhw yn ein hamgylchedd. Allwn ni ddim dod o hyd iddyn nhw trwy edrych ar yr ochr ddelfrydol. Na.
Cawn hyd i lawenydd yn yr ARGLWYDD. Dŷn ni’n ymhyfrydu yn Nuw. I ni fel Cristnogion, y ffordd orau o wneud hyn yw drwy ailadrodd newyddion da’r Efengyl i ni’n hunain. Mae Iesu wedi dy achub rhag pechod a marwolaeth. Mae wedi cymryd dy gosb. Rwyt wedi dy gymodi â'r Tad. Rwyt wedi cael dy wneud yn deml i'r Duw byw. Ymhyfryda ym mhopeth a wnaeth Duw drosot ti.
Yr ail reswm y mae'r adnod hon mor ddefnyddiol yw ein bod ni'n cael rhywbeth. Nid yn unig y mae'n rhaid i ni beidio â bod yn drist, ond dŷn ni’n hefyd yn cael derbyn rhywbeth da. Dŷn ni’n cael dymuniadau ein calonnau.
Beth yw'r chwantau hyn yn ein calonnau a roddir inni ar adegau o gyfyngder? Wel, dyma'r union beth dŷn ni wedi bod yn ymhyfrydu ynddo. Fe gawn ni Dduw!
Waeth beth fo'r amgylchiad a phechod, os wnei di ymhyfrydu yn Nuw'r Efengyl fe gei di Dduw'r Efengyl. Ymhyfryda yn Iesu a bydd Iesu yn datgelu ei hun i ti.
Dyna sut rwyt t'n brwydro yn erbyn pechod mewn cyfnod anodd. Dylet gynnwys dy galon yn y frwydr. Ymhyfryda yn Nuw.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar y llyfr 'Rewire Your Heart', bydd yr olwg deg diwrnod hwn ar rai o’r adnodau pwysicaf am dy galon yn dy helpu i ddarganfod sut i frwydro yn erbyn pechod trwy ganiatáu i’r Efengyl ddargyfeirio dy galon.
More