Logo YouVersion
Eicon Chwilio

'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn PechodSampl

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

DYDD 6 O 10

Mae Duw Eisiau Dy Galon

Beth sydd ar ôl Duw? Beth mae e eisiau gennym ni? Ydy e ar ôl cân ar y Sul neu weddi dda iawn yn y nos? Dw i'n meddwl ein bod ni i gyd yn gwybod mai na yw'r ateb. Mae Duw eisiau ein calonnau.

Un o’r adegau mwyaf amlwg yn y Beibl lle dŷn ni’n dysgu’r gwirionedd hwn yw Eseia. Mae Duw yn disgrifio trwy ei broffwyd y gwarchae sy'n dod ar Jerwsalem.

Fodd bynnag, waeth faint mae pobl yn clywed am eiriau Eseia a datguddiad Duw, fyddan nhw ddim yn gwrando mewn gwirionedd. Byddan nhw fel rhywun sy'n cael llyfr ond sy'n methu ei agor ac yn debyg i un sy'n cael llyfr ond sy'n methu darllen (29:11-12).

Felly pam y gosb yma? A pham nad ydy’r pobl yn deall y gweledigaethau a'r rhybuddion oddi wrth Dduw?

Dyma lle cawn ein darlun cliriaf o'r hyn y mae Duw ar ei ôl. Dyma'r rheswm.

”Mae'r bobl yma'n dod ata i ac yn dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i..” (29:13).

Mae Duw yn cosbi ac yn dallu ei bobl oherwydd eu bod yn gwneud sioe o grefydd, ond dydy eu calonnau ddim ynddi. Maen nhw'n dod at Dduw ac yn rhoi clod iddo ac yn dweud yr holl eiriau cywir, ond dydy eu hunan dyfnaf ddim gan Dduw - eu calonnau.

Mae Duw eisiau dy galon, nid dy wefusau. Mae eisiau dy serchiadau, dy nwydau, dy chwantau, a'th hiraeth. Mae Duw eisiau dy ddymuniadau. A fydd e ddim yn cael ei ddiwallu nes iddo eu cael.

Pam? Oherwydd mae'n gwybod mai dim ond pan fyddi di'n ei eisiau e y byddi di'n dymuno rhywbeth da. Ac nid yn unig y byddi yn dymuno rhywbeth da, mewn gwirionedd yr unig dda, ond hefyd y daioni gorau. Mae Duw eisiau dy ddymuniadau oherwydd ei fod eisiau dy ddaioni.

A sut bydd e'n cael dy galon di? Wel, sut wnaeth e gynllunio i gael calonnau ei bobl ystyfnig yn nydd Eseia?

Bydd e’n syfrdanu pobl (29:14). Ond dydy’r pethau rhyfeddol hyn ddim yn brydferth. Mae'r rhain yn bethau sy'n dod â rhyfeddod. Pethau fel cosb a gweithredoedd nerthol o farn. Y rheswm pam roedd pobl yn agosáu at Dduw â'u gwefusau ond nid eu calonnau oedd oherwydd bod eu hofn o Dduw yn ffug. eu haddoliad nhw yn ddim ond “traddodiad dynol wedi'i ddysgu iddyn nhw.” (29:13).

Felly byddai Duw yn rhoi gwir ofn yn eu calonnau. Falle bod hyn yn swnio'n llym, ond roedd Duw eisiau eu calonnau. Felly byddai'n datgelu ei hun iddyn nhw yn yr unig ffordd a fyddai'n eu newid.

Mae Duw yn newid calonnau yr un ffordd heddiw. Mae'n dangos ei hun i ni mewn ffyrdd rhyfeddol. A'r ffordd fwyaf rhyfeddol y mae wedi'i ddatguddio ei hun i ni yw barn a chosb hefyd. Ond y tro hwn, ddaeth y farn a'r gosb ddim arnom ni oedd yn ei haeddu. Daeth digofaint Duw ar Iesu,wnaeth gymryd ein cosb ni er nad oedd yn ei haeddu.

A yw dy galon ymhell oddi wrth Dduw er bod dy wefusau yn agos ato? Wyt ti eisiau newid hynny? Dyma Iesu! Gwel fel y mae Duw wedi ei ddatguddio ei hun i ti yng Nghrist! Gad i ofn a chariad Duw ddwys bigo dy galon trwy edrych yn ddwfn ar wirionedd yr Efengyl.

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar y llyfr 'Rewire Your Heart', bydd yr olwg deg diwrnod hwn ar rai o’r adnodau pwysicaf am dy galon yn dy helpu i ddarganfod sut i frwydro yn erbyn pechod trwy ganiatáu i’r Efengyl ddargyfeirio dy galon.

More

Hoffem ddiolch i Spoken Gospel am ddarparu'r cynllun hwn. am fwy o wybodaeth dos i https://bit.ly/2ZjswRT