Logo YouVersion
Eicon Chwilio

'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn PechodSampl

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

DYDD 2 O 10

Y Ffordd Anghywir i Ymladd Pechod

Pan wyt ti eisiau stopio pechu mewn rhyw ffordd, beth wyt ti’n ei wneud?

Wyt ti'n trio amddifadu dy hun o rywbeth, yn cadw draw o sefyllfaoedd o demtasiwn, neu'n trio tynnu dy sylw dy hun gyda gweithgareddau mwy diniwed?

Mae'n debyg dy fod eisoes wedi dysgu hyn trwy ymarfer, ond ni fydd yr un o'r technegau hyn byth yn gweithio. Fedri di ddim amddifadu dy hun, anwybyddu dy chwantau, na churo dy ewyllys i ymostyngiad. Pam? Oherwydd nid dy feddwl a'th ewyllys yw canolbwynt dy broses benderfynu. Dy galon yw e. Os nad wyt ti'n caru rhywbeth ni fyddi di ddim yn ei wneud. Os nad wyt ti’n casáu rhywbeth, fyddi di ddim yn gadael llonydd iddo.

Eto mewn cymaint o'r llyfrau hunangymorth a hyd yn oed pregethau heddiw, mae pobl yn pregethu'r strategaeth hon. Mae yna bob amser “ddoethineb” newydd ar gyfer sut i atal arferion drwg a dechrau rhai da. Mae llawer ohonyn nhw’n trin pechod fel deiet, llwgu allan y drwg, bwydo'r da. Ond nid fel hyn y mae pechod yn gweithio.

Yn ein darn heddiw, mae Paul yn mynd yn groes i dactegau crefyddol tebyg yn ei gyfnod. Mae’n trio helpu ei gynulleidfa i frwydro yn erbyn chwantau cnawd pechadurus (Col. 2:23) a’r hyn sy’n ddaearol (3:5). Ond cyn iddo ddweud wrthyn nhw sut i wneud hynny, mae'n dweud wrthynt sut i beidio â'i wneud.

Roedd pobl yn nyddiau Paul yn dweud mai amddifadedd oedd y ffordd iawn i chwynnu pechod. “Peidiwch gwneud hyn! Peidiwch blasu hwn! Peidiwch cyffwrdd rhywbeth arall!” (2:21). Wnaethon nhw ffurfio crefydd wedi’i greu gan ddyn o amgylch amddifadu eu hunain o nwyddau sylfaenol - “defosiwn haearnaidd” (2:23) - clwyfo eu hunain - “disgyblu'r corff a'i drin yn llym” (2:23). Y ffordd i frwydro yn erbyn pechod oedd i’w guro allan o dy hun a chosbi dy hun pan nad oeddet ti’n gwneud hynny.

Dyma fersiwn eithafol o'r hyn dŷn ni'n ei wneud. Er enghraifft, os yw rhywun yn cael trafferth gyda phornograffi, falle y bydd yn amddifadu ei hun o'r rhyngrwyd a thechnoleg. A phan fydan nhw’n baglu, maen nhw’n poenydio eu hunain gydag euogrwydd a gwarth. Y broblem yw nad ydy amddifadedd yn newid y galon ddim mwy nag y gall newynu dy hun gael gwared ar newyn.

Falle bod hyn yn swnio'n anghywir i ti. Falle mai dyma sut oeddet ti'n meddwl dy fod di i ymladd pechod. Nid yw’n syndod bod Paul wedi dweud, “Falle fod rheolau o'r fath yn ymddangos yn beth doeth i rai” (2:23). Fodd bynnag, ni fydd byth yn gweithio. Gyda thactegau pechod “dŷn nhw'n dda i ddim i atal chwantau a meddyliau drwg.” (2:23).

Felly os mai nid fellymae ymladd pechod, sut ddylen niymladd pechod?

Mae gan Paul ein hateb. “Felly, am eich bod wedi cael eich codi i fywyd newydd gyda'r Meseia, ceisiwch beth sy'n y nefoedd, lle mae'r Meseia yn eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Edrychwch ar bethau o safbwynt y nefoedd, dim o safbwynt daearol.” (3:1-2).

Sut mae ymladd pechod? Dŷn gosod ein meddyliau ar Grist. Elli di ddim newid dy galon trwy ddweud na wrth dy ddymuniadau. Ond gelli di newid dy galon trwy osod dy feddwl ar Grist.

Pan wyt ti’n atgoffa dy hun dy fod “wedi cael dy godi i fywyd newydd gyda'r Meseia,” (3:1), mae dy galon yn llawn serchiadau mawr. Bydd y serchiadau hyn yn adnewyddu dy galon i wneud yr hyn na allai amddifadedd byth. Bydd gosod dy feddwl ar Grist a'i Efengyl yn lladd pechod yn dy fywyd.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar y llyfr 'Rewire Your Heart', bydd yr olwg deg diwrnod hwn ar rai o’r adnodau pwysicaf am dy galon yn dy helpu i ddarganfod sut i frwydro yn erbyn pechod trwy ganiatáu i’r Efengyl ddargyfeirio dy galon.

More

Hoffem ddiolch i Spoken Gospel am ddarparu'r cynllun hwn. am fwy o wybodaeth dos i https://bit.ly/2ZjswRT