Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys DaSampl

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

DYDD 10 O 10

Dw i'n ei chael hi'n anodd i orffwys oherwydd fy nhuedd yw ymdrechu i'r eithaf. Dw i wedi byw yn ddigon hir gyda fy ffaeleddau i ddeall hynny, a rheiny'n ddwfn o'm mewn, a dw i'n credu os nad ydw i'n gweithio, dw i'n methu. Os dw i'n methu, dw i'n ddi-werth. Er hynny, yn yr un modd o wasanaethu Duw yn ein gwaith, dw i'n credu y gallwn ei anrhydeddu wrth orffwys.

Dŷn ni angen arafu, treulio amser yn y Gair, a bod yn dawel am ddigon o amser i glywed llais Duw, fel ein bod yn fwy parod i wneud y gwaith y mae e'n ein galw i wneud. Pan dw i'n ceisio mynd am 24/7 heb gael seibiant, dw i, nid yn unig yn llosgi allan, esgeuluso'r teulu, a ddim yn ofalus o'm iechyd, dw i hefyd yn gwneud penderfyniadau byrbwyll ar sail fy agenda fy hun, yn lle gwrando ar arweiniad tawel Duw.

Sgwennodd Charles Swindon, "Wnaeth Duw 'rioed ofyn i ni ddelio gyda pwysau a gofynion bywyd ar ben ein hunain, neu ddibynnu ar ein nerth ein hunain. Ac wnaeth e ddim hawlio ein bod yn ceisio ennill ei ffafr drwy hel portffolio trawiadol o weithredoedd da. Yn lle hynny, mae'n ein gwahodd i orffwys ynddo fe."

Gweithiodd Dduw a'i alw'n da, a gorffwysodd a'i alw'n sanctaidd.

Dŷn ni'n cael ein gwahodd i ymuno ag ef yn y gorffwys hwnnw, oherwydd ar y foment honno gallwn osod ein beichiau o'i flaen, aros ynddo fe, a gwneud yr hyn y cawsom ein creu ar ei gyfer, i adnewyddu ein heneidiau ar gyfer y dyddiau sydd ddod.

Gorffwys i mi oedd diogi ar y soffa, yn bwyta snaciau ac yn gwylio'r teledu. Ro'n i'n meddwl mod i'n haeddu'r seibiant yna, mai gwneud "dim byd" oedd y ffordd i ymlacio. Ond yn aml ro'n i'n teimlo'n fwy blinedig, wedi fy ngor-lenwi o siwgr, ac yn hollol ddigymell i wneud dim.

A fedra i chwalu myth i ti? Mae gorffwys yn edrych yn wahanol i bawb. Mae gen i ffrindiau sy'n teimlo llawn egni ar ôl bod yn rhedeg yn gynnar y bore gan eu bod yn gallu bod ar ben eu hunain gyda'u meddyliau, gweddïau a'r palmant. Mae gen i ffrindiau eraill sydd wrth eu bodd yn cael ffrindiau draw am bryd o fwyd a sgyrsiau da. Ac efallai y byddi'n gweld dy fod gorffwyso orau pan fyddi'n darllen llyfr, arlunio, chwarae cerddoriaeth, neu'n arddio.

Mae Duw wedi ein creu gyda gymaint o ofal fel na ddylem synnu fod ein gorffwys yn gallu bod yr un mor unigryw â'n gwaith.

* * *

Os wnes ti fwynhau'r defosiynau hyn, wedi'u haddasu o Holy Hustle: Embracing a Work-Hard, Rest-Well Life gan Crystal Stine. a bydde ti'n hoffi darganfod mwy am bwrpas Duw yn dy fywyd, dos i .

Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r llall yw cynllun Duw ar ein cyfer? Dyma brysurdeb sanctaidd - ffordd o fyw ble gelli weithio'n galed ac ymlacio mewn ffyrdd fydd yn anrhydeddu Duw.

More

Hoffem ddiolch i Crystal Stine a Harvest House Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.harvesthousepublishers.com/books/holy-hustle-9780736972963