Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys DaSampl

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

DYDD 5 O 10

Roeddwn i wedi darllen stori Ruth yn y Beibl ddwsinau o weithiau o'r blaen, ond un Sul sylwais ar rywbeth annisgwyl. Fe wnaeth Ruth fwy na'r lleiafswm posib. Bu'n brysur, gweithiodd yn galed, gan orfffwys yn briodol pan oedd angen, a a gorffen y gwaith oedd o'i blaen. Gweithiodd tan yr hwyr, gan gasglu 10 cilogram o haidd i gynnal ei theulu. Bu Ruth yn ddiwyd i'w gwaith a gosododd Dduw gynllun yn ei le ar gyfer ei bywyd fyddai'n arwain ati'n priodi Boas, a'i lle yn llinach Iesu.

Dyna yw prysurdeb sanctaidd. Chafodd Ruth mo'i chymell gan boblogrwydd a chydnabyddiaeth. Roedd casglu haidd yn anodd, yn gorfforol galed, Doedd o ddim yn ffansi, glodwiw, na nodedig. Roedd yn ostyngedig. Roedd yna ystyr a phwrpas i waith Ruth, a dw i'n credu bod yr un peth yn wir i ni hefyd.

Beth os fyddai Ruth wedi edrych o gwmpas ei chartref bach a rannodd gyda Naomi a ffocysu fwy ar beth oedd ar goll, yn hytrach na beth allai ei ddarparu? Beth os byddai Ruth wedi mynd allan i chwilio am waith fyddai'n gwneud iddi deimlo'n bwysaig, yn hytrach na gwneud y gwaith ble byddai'n cael ei rhoi yn yr union le roedd Duw ei heisiau? Fe allai fod wedi methu'r cynhaeaf yn gyfan gwbl, yn ogystal â'r bendithion roedd Duw eisiau eu rhoi iddi wrth iddo achub ei theulu.

Mae'n gallu bod yn anodd mynd allan a gwneud y gwaith mae Duw wedi ein galw iddo. Efallai dy fod wedi dy ofyn i wasanaethu mewn gweithle sydd ddim yn anrhydeddu Duw, ac rwyt ti'n teimlo'n ddieithryn mewn gwlad estron. Neu, efallai mae Duw wedi dod â ti i le newydd, a dy freuddwyd oedd gwneud gwaith nodedig ac euogrwydd ond rwyt wedi dy alw i wasanaethu mewn ffordd cymaint llai. Efallai dy fod wedi bod yn gwasanaethu'n ffyddlon mewn rol rwyt yn ei charu ond yn teimlo'n rwystredig gan nad wyt ti'n gweld ffrwyth dy lafur.

Pan fyddwn yn stopio ymdrechu a dechrau gwasanaethu byddwn yn dechrau trystio y bydd Duw yn cynaeafu'r hyn rydym wedi ei hau. Efallai mai'r caredigrwydd rwyt yn ei rannu yn dy weithle fydd yr union beth fydd yn achosi rhywun i agosáu at Dduw. Efallai mai'r cariad rwyt ti'n ei ddangos, yn y llefydd bach, di-nod, ffyddlon fydd y gamfa y bydd Duw yn ei defnyddio i ddod â pobl yn agosach ato. A bydd yr hadau hynny rwyt ti'n eu plannu mewn ffydd ryw ddydd, efallai genedlaethau ar ôl i ti adael y fuchedd hon, yn gatalydd i'r rhodd hyfryd mae Duw eisiau ei rannu gyda'r byd.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r llall yw cynllun Duw ar ein cyfer? Dyma brysurdeb sanctaidd - ffordd o fyw ble gelli weithio'n galed ac ymlacio mewn ffyrdd fydd yn anrhydeddu Duw.

More

Hoffem ddiolch i Crystal Stine a Harvest House Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.harvesthousepublishers.com/books/holy-hustle-9780736972963