Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys DaSampl
Os wyt ti wedi gweld y ffilm, Monsters,Inc, fyddi di'n gwybod beth dw i'n feddwl pan ddweda i fod y daith yn teimlo fel yr olygfa olaf ond un yn y ffilm. Mae Mike, Sullwy a Boo yn hongian o'r cludfelt ble mae miloedd o ddrysau. Ond rhaid dewis agor y drws cywir. Byddai cerdded drwy'r drws anghywir yn eu rhoi ynghanol storm o eira neu yng ngwres tanbaid yr anialwch. Byddai agor yr un cywir yn mynd â nhw adre. Felly mae nhw'n dal yn dynn, yn ymladd y gelyn wnaeth geisio tynnu sylw a'u dinistrio, nes eu bod yn cyrraedd yr un drws maen nhw'n gwybod fydd yn golygu diogelwch lwyr.
Mae'r rhyngrwyd yn rhoi'r gallu i ni weld y drysau mae duw yn eu hagor i bobl eraill ar draws y byd, a dŷn ni'n colli golwg ar yr un drws mae Duw am i ni gamu drwyddo i mewn i ffydd. Dydy pob drws ddim ar ein cyfer. Dydy pob drws ddim yn ein harwain gartre.
Roeddwn wedi treulio deng mlynedd neu fwy yn gafael yn dynn mewn modd goroesi - wrth raddio o'r coleg, dod o hyd i swydd i gael dau ben llinyn ynghyd, priodi, gweithredu dan y fersiwn goffwyll o ddiffiniad y byd o brysurdeb, wedi fy niswyddo, chwilio a chwalu am y peth nesaf, dechrau fy musnes fy hun, derbyn gweinidogaeth llawn angerdd, hyfrydwch ac unigrwydd, ymddiswyddo, a rhuthro eto i ddechrau busnes llawrydd i gynnal fy nheulu.
Roeddwn wedi treulio gymaint o amser yn ceiso osgoi'r drysau oedd yn cau yn glep yn fy ngwyneb fel fy mod wedi colli'r gallu i weld y drysau roedd Duw yn agor o'm blaen.
Wrth i mi ddechrau dysgu gollwng gafael yn y cludfelt o opsiynau a chamu nôl o ymdrechu. Dangosodd duw syniad i mi wnaeth newid popeth. Roeddwn wedi bod yn edrych am y drysau cyfforddus i mi, y defnydd gorau o'm sgiliau, y drysau nodedig fyddai'n arwain at bethau "mwy a gwell".Yn y cyfnodau hynny o ymdrechu hunanol, er mod i wedi bod yn gweithio i fi fy hun, roedd Duw yn ffyddlon gan ddal i weithio gyda mi. Mae'r gwersi dŷn ni'n ddysgu, y sgiliau dŷn ni'n ennill, y pobl dŷn ni'n eu cyfarfod, a'r tyfiant dŷn ni'n ei brofi, y cwbl, yn fendith. Mae duw wedi rhoi'r ewyllys rydd i ni ddewis y drysau i fynd drwyddon nhw heb boeni y byddwn yn cael ein hunain tu allan i ewyllys Duw ar yr ochr arall. Efallai na chawn ein hunain yn yr alwedigaeth gywir, neu'n gwneud gwaith sy'n teimlo fel ei fod yn uniaethu â'n galwad, ond fe fydd Duw yn cwrdd â ni yna.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r llall yw cynllun Duw ar ein cyfer? Dyma brysurdeb sanctaidd - ffordd o fyw ble gelli weithio'n galed ac ymlacio mewn ffyrdd fydd yn anrhydeddu Duw.
More