Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys DaSampl
Mae mabwysiadu agwedd newydd a rhagolwg am brysurdeb yn cymryd amser. Ond pan mae'n dod i newid a phethau newydd mae Duw am ei wneud yn ein bywydau, mae gynnon ni ddau ddewis, cilio neu mynd ar ôl tyfiant. Fi yw'r cyntaf i gyfaddef fod cilio yn teimlo fel y dewis gorau nes bod Duw yn fy nghymell. Pan mae newid yn teimlo'n frawychus, dibynnu ar fy nghryfder fy hun ydw i i gyrraedd y nod. Dw i'n cymryd yn ganiataol mai fy nghyfrifoldeb i yw wneud i rywbeth i weithio, i lwyddo, i beidio bod yn fethiant-eto. Pan dw i'n dewis cilio dw i'n cael fy atgoffa, y bydda i ar ben fy hun, wrth ymdrechu fy hun, yn methu cael dim i lwyddo fel taswn i'n dymuno.
Ond yna, dw i'n stopio ymdrechu ac yn dechrau mynd ar ôl =, gan drystio fod Duw yn dod â rhywbeth newydd oherwydd mae ganddo gynlluniau ar fy nghyfer sy'n dda, cynlluniau fydd yn ei ogoneddu ac ehangu ei deyrnas.
Wnei di fwrw iddi ar y llwybr mae e'n dy arwain arno, un ble mae prysurdeb sanctaidd yn disodli ymdrech? Neu fyddi di'n cilio, gan ffafrio'r cyfforddus, yn hytrach na tymor anghyfforddus llawn o'r anhysbys?
Dyma dri sicrwydd y gallwn gymryd efo ni i'r dyfodol gyda hyder: Dydy Duw heb orffen gyda ni eto, Mae e'n barod i wneud rywbeth newydd, ac mae e yna gyda ni bob cam o'r ffordd.
Mae prysurdeb sanctaidd yn rhoi'r rhyddid i ni weithio'n galed gyda ein holl nerth ar y tasgau mae Duw wedi'u neilltuo i'n henaid. Dyma waith y galon, y gwaith sy'n gwneud y gwahaniaeth yn nheyrnas Duw. Mae'n rhoi i ni y rhyddid i sylweddoli fod y gwaith mae eraill yn ei wneud yn iawn iddyn nhw, ond nid i ni, yn y cyfnod hwn. Mae prysurdeb sanctaidd yn ein helpu i glywed Duw uwchlaw rhuo'r byd awdurdodol, fel ein bod yn gallu derbyn y gwaith mae Duw wedi'i baratoi ar gyfer ein calonnau, a gwrthod y gwaith fydd yn carthu ein heneidiau.
Mae'r linell rhwng prysurdeb ac ymdrechu. gorffwys a diogrwydd, yn le anodd i fod ynddo. Pan dŷn ni yn pwyso gormod un ffordd, dŷn ni'n cael ein hunain yn dibynnu ar ein nerth ein hunain, yn lle dibynnu ar Dduw sy'n ein hatgoffa mai fe yw ein nerth. Nid yw'r fersiwn hwn o brysurdeb yn ymwneud â darganfod mwy o amser yn ein dydd i wneud mwy, ond yn hytrach, darganfod beth mae Duw yn ein galw i wneud fel ein bod yn gallu gwasanaethu mwy, rhoi mwy, annog mwy - yn y llefydd cywir ac yn y ffyrdd cywir.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r llall yw cynllun Duw ar ein cyfer? Dyma brysurdeb sanctaidd - ffordd o fyw ble gelli weithio'n galed ac ymlacio mewn ffyrdd fydd yn anrhydeddu Duw.
More