Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys DaSampl

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

DYDD 3 O 10

Mae yna Legos dros y tŷ ymhobman. Dechreuodd ein casgliad gyda chydig o setiau yn cael eu prynu adeg y Nadolig, un flwyddyn, a nawr mae yna finiau lu o'r blociau bach lliwgar. Wrth i'm merch adeialdu, mae'r blociau mwyaf yn cael eu defnyddio gyntaf. Y rhai hynny sy'n gosod y seilau, y rhai sy'n taflu cysgod dros y can bag plastig sy'n llawn darnau bach sydd bron yn gudd, angenrheidiol ond yn llawn pwrpas ar gyfer eu defnydd.

Weithiau, dw i ddim eisiau dim bwyd mwy, na bod fel y darnau mwyaf o Lego, sefydlog ac yn ddewis amlwg. Ond unwaith mae'r adeilad wedi'i orffen dydy'r darnau mwy a thrawiadol hynny ddim yn gwneud gymaint â hynny o wahaniaeth a fydde rhywun yn meddwl. Wrth i mi godi ceffylau a ffigyrau bach, draenogod bach, a phlu eira pefriog, sylweddolais mai'r darnau bach o'r set sy'n cael yr effaith fwyaf.

Mae darnau bach o blastig clir, bron yn gudd, yn creu ffenestri hardd.

Mae dotiau bach disglair, yn ychwanegu'r cyffyrddiadau bach i doeau a byrddau.

Mae moron yn drwynau i ddynion eira, ac mae esgidiau sglefrio bach yn harddu traed bach.

Yn aml, fi ydy'r darn bach hwnnw sy'n chwarae rhan bach cefnogol. Yr un yn y cysgodion o'i gymharu â'r cymeriad personoliaeth llawn bywyd. Yr un sy'n tybio ei bod yn hawdd iawn i'w heilyddio neu'n ddi-angen ar gyfer y cynnyrch terfynol - yn hyfryd i'w chael ond ddim yn "angenrheidiol". Ond dyna hael oedd Duw yn creu corff Crist, yn benodol a bwriadol - boed mawr neu fach.

Wyt ti'n teimlo fel un o'r darnau bach di-bwys yr olwg yn y casgliad? Wyt ti dal ddim yn siŵr fod beth sy'n ymddangos yn blaen, cyffredin a blêr, yn gallu bod yn rhan o waith y deyrnas, mae dy galon yn hiraethu i'w gynnig i'r byd? Wyt ti'n rhyfeddu sut dy fod yn gallu aros yn y man mae Duw wedi dy osod pan nad wyt yn siŵr fod y gwaith rwyt wedi'i gael yn ddigon da?

Mae dy bresenoldeb a dy bwrpas o bwys. Hyd yn oed os ydyn ni'r darn mwyaf nodedig yn y pentwr (yn helpu eraill i sefyll yn gadarn!|) neu'r darn bach hwnnw sy'n disgleirio!) dŷn ni'n gogoneddu Duw wrth uno dros ei deyrnas. Rwyt yn unigryw, wedi'th arfogi. ac yn gwbl angenrheidiol ar gyfer y gwaith mae Duw wedi'i drefnu ar dy gyfer. Yng Nghrist gallwn wneud gymaint mwy na wnaethon ni erioed ei feddwl.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r llall yw cynllun Duw ar ein cyfer? Dyma brysurdeb sanctaidd - ffordd o fyw ble gelli weithio'n galed ac ymlacio mewn ffyrdd fydd yn anrhydeddu Duw.

More

Hoffem ddiolch i Crystal Stine a Harvest House Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.harvesthousepublishers.com/books/holy-hustle-9780736972963