Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys DaSampl

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

DYDD 8 O 10

Mae'n cymryd pentref-nid yn unig i fagu plentyn, ond i droi ein prysurdeb cyffredin i rywbeth sanctaidd a gogoneddus i Dduw.

Cyffelybiaeth, Cystadleuaeth, Cymuned. Pan dw i'n edrych ar negeseuon awdurdodol o brysurdeb mae'r byd yn sgrechian arnon ni. Mae cystadleuaeth yn golygu ymdrechu di-ddiwedd i sicrhau fod ein cynnyrch, gwaith neu eiriau, nid yn unig y gorau, ond y mwyaf unigryw ac ar gael cyn neb arall. Mae'r sgrechian, "Fi oedd yma gynta'!" A'r gymuned? Dim ond gair cyfleuas yw hwn ar gyfer y cwsmeriaid sy'n dargedau ein hysbysebu, marchnata, a chylchlythyr ebost.

Ar ôl gweithio mewn marchnata am dros ddeng mlynedd mae hynny'n gwneud synnwyr i mi. Mae fy ymennydd yn syrthio nôl i'r hen ddyfyniadau pan dw i'n anghofio pwrpas fy ngwaith. Yn lle gwasanaethu dw i'n dechrau gwerthu, a mae hynny'n arwain at mwy o bwyslais ar elw na phobl. Ond mae yna ffordd wahanol. Mewn economi o brysurdeb sanctaidd, mae cynharu'n golygu edrych ar ein gwaith ein hunain, a gofyn i Dduw sut mae hyn uniaethu a'i peidio gyda'i ewyllys e. Sut mae ein bywydau yn cymharu i fywyd Iesu, yr un dŷn ni fod i debygu iddo? Dydy cystadlu ddim byd i wneud â sicrhau ein bod ni'n ennill, ond edrych am ffyrdd i godi eraill, a thu hwnt i ddim eu anrhydeddu. A cymuned yw'r cynhwysyn hanfodol sy'n gosod prysurdeb sanctaidd ar wahân i'r ffordd mae gweddill y byd yn gweithio. Mae'n edrych fwy fel cydweithio, gofal a sgwrsio, yn hytrach na targedu cwsmeriaid.

Efallai ei fod yn flêr ond mae cymuned yn werth y gwaith caled. Wnaeth Duw mo'n creu ni i fod ar ben ein hunain, ac mae hynny yn gymwys i'n gwaith ni hefyd. Gallwn wneud cymaint mwy dros deyrnas Duw wrth stopio cystadlu a dechrau cydweithio.

Bydd dilyn gofynion swnllyd ac aflafar disgwyliadau'r byd yn ein gwneud yn ddim ond ansicr wrth i ni gymharu ein lle yng nghynllun Duw i'r rhai hynny o'n cwmpas. Gadewch i ni, yn lle, drystio Duw fel y Prif Grefftwr sy'n gwybod, pryd, pwy pam a pha bethau i'w defnyddio i wneud rhywbeth hardd a chadarn fydd yn para gydol oes.

Gad i ti dy hun gael dy hudo gan bwrpas Duw yn dy fywyd a thafla dy huyn i mewn i'r gwaith caled, gorffwys digon, a byw'r prysurdeb sanctaidd mae Duw wedi dy alw iddo, yn yr union fan ble rwyt ti.

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r llall yw cynllun Duw ar ein cyfer? Dyma brysurdeb sanctaidd - ffordd o fyw ble gelli weithio'n galed ac ymlacio mewn ffyrdd fydd yn anrhydeddu Duw.

More

Hoffem ddiolch i Crystal Stine a Harvest House Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.harvesthousepublishers.com/books/holy-hustle-9780736972963