Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys DaSampl

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

DYDD 9 O 10

Wyt ti wedi amau os wyt ti'n gwneud y peth iawn? Neu os wyt ti'n union ble mae Duw eisiau i ti fod? Neu os oes rhywbeth ychwanegol neu wahanol, gwell neu fwy allan yna yn rhywle ar dy gyfer? Neu falle dy fod yn meddwl os yw cost dy alwad yn werth y digwyddiadau hynny.

Mae cymaint o funudau mewn bywyd yn teimlo fel ein bod mewn ystafell ble mae'r goleuadau wedi diffodd a dŷn ni'n baglu dros ein traed yn chwilio am swits golau. cannwyll, neu fflachlamp i weld ein ffordd o gwmpas. Yn y munudau hynny trystia Dduw. Gafael yn dynn yn ei alw sy'n dy gymell a chredu y bydd yn dy arwain yn ddiogel i'r drws nesa sydd ganddo ar dy gyfer i gamu drwyddo. Does dim angen i'r tywyllwch godi ofn pan dŷn ni'n gallu cerdded gyda'r Golau yn y Byd.

Ond mae'r cwestiynau hynny rwyt yn gofyn i ti dy hun yn ddilys. Ddylai dy ofnau a'th bryderon ddim godi cywilydd arna ti. Pe bydden ni i gyd yn gallu eistedd i lawr a siarad efo'n gilydd am ein gwaith, angerdd, a'n ffydd, fe fyddwn i'n synnu pe bai unrhyw un yn dweud bod eu bywyd wedi troi allan yn union fel roedden ni wedi'i obeithio. Beth fydde ti'n dweud wrth oedd gyda'r cwestiynau hyn? Fydde ti'n dweud wrthi ei bod yn iawn, a dylai, fwy na thebyg, roi'r ffidil yn y to?

Gobeithio ddim

Byddem yn ei charu a gweddïo gyda hi. Byddem yn ei hannog a dod o hyd i ffyrdd o ddweud wrthi bod yr hyn mae hi'n wneud yn dda, yn deilwng, a gwerthfawr, ac os yw'n gwybod yn ei chalon mai dyma ble mae Duw ei hangen y funud hon, yna dydy e ddim yn gamgymeriad.

Buaswn yn fwy na pharod i ddweud sut dw i'n credu mae Duw yn cymryd y diniwed ac yn ei wneud yn sanctaidd, ac mai ufudd-dod (nid maint, enogrwydd neu adnabyddiaeth) sydd o bwys yn yr effaith dŷn ni'n ei gael drwy waith y deyrnas.

Mae Duw yn ffyddlon ym mhob dim mae'n ei wneud. Nid yw'r man ble rwyt ti, yr hyn ti'n ei wneud, a'r bobl mae Duw wedi gofyn i ti ddylanwadu arnyn nhw, yn gamgymeriad.

Bydd Duw yn defnyddio bob darn o'n stori ni i oleuo ei ysblander.

Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r llall yw cynllun Duw ar ein cyfer? Dyma brysurdeb sanctaidd - ffordd o fyw ble gelli weithio'n galed ac ymlacio mewn ffyrdd fydd yn anrhydeddu Duw.

More

Hoffem ddiolch i Crystal Stine a Harvest House Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.harvesthousepublishers.com/books/holy-hustle-9780736972963