Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 9 O 30

Dŷn ni'n cael ein herio sawl gwaith yn yr Ysgrythurau i lawenhau, i foli duw, i ganu'n uchel mewn llawenydd, ond dim ond pan mae yna achos i lawenhau, i foli, i ganu'n uchel y gall y pethau hyn yn wirioneddol gael eu gwneud o'r galon. Yn y byd sydd ohoni dydy'r dyn sâl cyffredin ddim yn cymryd rhyw olwg berffaith o fywyd, a chyda'r rhai sydd â'u heneidiau'n sâl, mae disgleirdeb go iawn yn amhosibilrwydd. Nes bod yr enaid wedi'i wella mae yna wastad arswyd ac ofn sylfaenol sy'n dwyn y llonder a llawenydd anhygoel y mae Duw'n ei ddymuno ar gyfer ei holl blant.
Dim ond pan mae Duw'n dy arwain y gall yna fod yna waredigaeth oddi wrth digalondid. Byw yn heddwch a llawenydd maddeuant a ffafr Duw yw’r unig beth a ddaw â sirioldeb.
Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Beth yw fy rheswm dros lawenhau? O ba salwch - corfforol neu ysbrydol - wyf fi wedi fy iachau? Oddi wrth pa ddigalondid ydw i wedi fy achub? Oddi wrth pa ofn ydw i wedi fy rhyddhau?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o Workmen of God, © Discovery House Publishers
Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org