Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 10 O 30

Mae pobl wedi blino pregethu am nefoedd i ddod ac wedi mynd i'r eithaf arall, gan ddelio gyda'r hyn sy'n cael ei alw'n ymarferol. O ganlyniad maen nhw'n colli'r llawenydd, na ellir ei amgyffred, o wybod y bydd popeth y mae Duw wedi'i ddweud yn dod yn wir. Mae'r waredigaeth, nid yn unig ar gyfer dynion a merched, ond ar gyfer y ddaear gyfan. Mae popeth sydd wedi'i andwyo gan bechod a satan wedi'i waredu gan Iesu Grist. Ar hyn o bryd mae hynny'n rhywbeth tu hwn t i'n deall. Mae'r byd yn cynrychioli'r cymdeithasau o ddynion ar y ddaear, ac maen nhw'n gwneud fel y mynnan nhw, ond mae'r ddaear yn aros ym mherchnogaeth Duw. "Mae'r rhai addfwyn sy'n cael eu gorthrymu wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n etifeddu'r ddaear." Mae'r rhai addfwyn yn aros yn amser Duw.

Dŷn ni'n mynd at Dduw pan nad oes gennym ni lawenydd yn ein hunain ac yn darganfod mai Ei lawenydd yw ein cryfder.

Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: A yw fy nghalon yn disgwyl o wybod fod Duw'n llawn llawenydd er fy mhrofiad fel cymylau a thywyllwch? A yw fy hyder ym muddugoliaeth olaf Crist yn ddigonol i gynnal fy llawenydd wrth aros am gyflawniad ei addewid?

Dyfyniadau wedi'u cymryd o Biblical Ethics a The Highest Good, © Discovery House Publishers

Ysgrythur

Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org