Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 15 O 30

Mae hi'n hawdd iawn i esgeuluso dyn neu ddynes sydd wedi'n fwriadol dderbyn nod eu bywyd gan yr Arglwydd Iesu. Mae llawer ohonom yn dynwared pobl eraill: dŷn ni'n gwneud gwaith Cristnogol am fod rhywun wedi gofyn i ni ei wneud. Rhaid i ni dderbyn ein cenhadaeth, sef i dystio i efengyl gras Duw, oddi wrth Iesu Grist ei Hun, nid oddi wrth Gristnogion eraill. Mae llawenydd yn ganlyniad cyflawniad perffaith yr hyn y mae dyn yn cael ei greu ar ei gyfer. Mae'n angenrheidiol i ddychwelyd yn ddiddiwedd at yr hyn mae'r Testament Newydd yn gofyn i ni dderbyn amdanom ein hunain. Nid helpu dynion yw ein swyddogaeth cyntaf, ond ufuddhau i Dduw, a pan fyddwn yn derbyn y swyddogaeth gyntaf, dŷn ni'n dechrau perthynas gyda'r rhai sydd wedi'u dirmygu a'u hesgeuluso.
Mae Duw mor hynod o agos a chryf fel fy mod yn llawenhau gymaint mwy yn fy hyder ynddo e, ac yn llai gofalus o sut dw i'n teimlo.

Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Ydw i'n dynwared pobl eraill er mwyn osgoi dod o hyd i fy nghenhadaeth fy hun? Pa dystiolaeth y mae Duw wedi'i rhoi i mi ac i neb arall? Pa neges o lawenydd y mae Duw wedi'i rhoi imi ei chyhoeddi?

Dyfyniadau wedi'u cymryd o The Psychology of Redemption a Run Today’s Race, © Discovery House Publishers
Diwrnod 14Diwrnod 16

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org