Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 18 O 30

Mae'r sylweddoliad fod fy nghryfder wastad yn rhwystr i gyflenwad Duw o fywyd yn agoriad llygad. Mae dyn sydd ganddo ddoethineb yn fwy tebygol o ddibynnu ar ei ddoethineb nag ar Dduw. Mae dyn ariangar yn fwy tebygol o ddibynnu ar ei gyfoeth nag ar Dduw. Mae cymaint ohonom yn dibynnu ar ein meddiannau, yn hytrach nac yn gyfan gwbl ar Dduw.

Mae'r holl ffynonellau hyn o gryfder yn ffynonellau o wendid dwbl. Ond pan fyddwn sylweddoli fod ein bywyd go iawn wedi'i " guddio'n saff gyda'r Meseia yn Nuw," dŷn ni'n "gyflawn," "achos yn y Meseia mae dwyfoldeb yn gyfan gwbl yn byw mewn person dynol." ac mae ei gryfder yn cael ei amlygu'n ddisglair yn ein corff darfodedig. Caniatâ Duw y gall ei Ysbryd ddod â phawb ohonom i'r man lle mae'r gyfrinach yn cael ei dysgu a'i mwynhau bod ei nerth yn cael ei wneud yn berffaith yn ein gwendid.

Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Sut mae fy nghryfder yn rhwystro Duw? Sut mae fy adnoddau yn rhwystro Duw? Pa gyfrinach sy'n cael ei gadw rhagddo i am fy mod yn gwrthod dibynnu ar Dduw?

Dyfyniadau wedi'u cymryd o God’s Workmanship, © Discovery House Publishers
Diwrnod 17Diwrnod 19

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org