Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl
Os yw dy amgylchiadau'n heriol ar hyn o bryd, cofia am yr amser pan nad oedden nhw'n heriol, a byddi'n synnu at y pŵer mewnol sy'n y galon ddynol i gywiro a throi o un peth i'r llall. Mae'r galon yn gallu gwrthsefyll gymaint o drallod a lawenydd! Os byddwn yn colli'r pŵer o droi o un i'r llall, dŷn ni'n cynhyrfu'r balans. Mae Ysbryd Duw'n adnewyddu a chadw'r balans yn gywir.
Mae pregethu'r efengyl o "cwyd dy galon" pan nad yw person yn gallu codi'i galon, neu ddweud iddo edrych ar y gorau mwn bywyd mor chwerthinllyd â dweud wrth bysgodyn i wrando ar un o oratorios Handel. Mae'r un mor ofer â dweud wrth ddyn sydd wedi'i ddedfrydu am bechod i godi'i galon. Beth mae e ei angen ydy gras Duw i'w newid a rhoi ynddo wanwyn newydd o lawenydd.
Cwestiynau i fyyfyrio arnyn nhw: Ydw i'n setlo ar gael sirioldeb yn hytrach na llawenydd? Ydy fy hyder yn Nuw yn ddigonol fel mod i'n profi llawenydd hyd yn oed mewn cyfnodau o dristwch? Ydy fy mhrofiad o ras yn fwy na fy mhechod?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o Biblical Psychology, © Discovery House Publishers

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.
More
We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org