Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 27 O 30

Pryd bynnag y bydd yr angylion yn dodi'r ddaear maen nhw'n dod mewn llawenydd gorfoleddus, sydd raid dal gafael arno (Luc, pennod 2, adnod 13). Mae'r ddaear fel siambr sal, a phan mae duw'n anfon ei angylion yma mae'n rhaid iddo ddweud - " Byddwch yn dawel nawr, maen nhw mor llawn o bechod fel nad ydyn nhw'n deall eich llawenydd." Pryd bynnag y mae'r llen yn cael ei chodi mae yna chwerthin a llawenydd. Dyma nodweddion sy'n perthyn i Dduw a threfn Duw ar bethau; tywyllwch a gormes ac iselder yw nodweddion popeth sydd ddim yn perthyn i Dduw.
Bob tro dŷn ni wedi trafod busnes gyda Duw ar Ei gyfamod ac wedi gollwng gafael yn llwyr ar Dduw, does dim unrhyw ymdeimlad o rinwedd ynddo, dim cynhwysyn dynol o gwbl, ond ymdeimlad mor llethol o fod yn greadigaeth Duw nes ein bod yn cael ein gweddnewid, trwy heddwch a llawenydd.
Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Pa len o ddysgeidiaeth fflas sy'n fy nghadw rhag profi llawenydd yr Arglwydd/ Pryd oedd y tro diwethaf o'n i'n byrstio gyda llawenydd? Sut mae creadigrwydd a llawenydd yn gysylltiedig?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o Not Knowing Where, © Discovery House Publishers

Ysgrythur

Diwrnod 26Diwrnod 28

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org