Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl
Mae Iesu Grist nid yn unig yn Waredwr, mae e'n Frenin, ac mae ganddo e'r hawl i fynnu unrhyw beth a phopeth gynnon ni ar sail ei ddisgresiwn ei hun. Dŷn ni'n siarad am lawenydd a chysuron iachawdwriaeth; mae Iesu Grist yn siarad am gario'r roes a'i ddilyn e. Prin iawn yw'r rhai hynny ohonom sy'n gwybod am ffyddlondeb i Iesu Grist. Dŷn ni'n edrych ar Iesu fel esiampl orau'r bywyd Cristnogol, dŷn ni ddim yn ystyried mai fe yw'r Hollalluog Dduw Ymgnawdoledig, gyda holl bŵer y ddaear a'r nefoedd. Dŷn ei ystyried fel cymrawd Un sydd â mwy o anadl ym mrwydr bywyd na'r gweddill ohonom ac mae'n troi rownd i roi help llaw. Dŷn ni'n ei drin fel pe bai'n un ohonon ni, dŷn ni ddim yn tynnu ein hesgidiau i ffwrdd pan mae e'n siarad. Mae Iesu Grist yn Waredwr, ac mae'n ein hachub i'w arglwyddiaeth lwyr a sanctaidd ei hun.
Cwestiynau i fyyfrio arnyn nhw: Pa lawenydd ydw i wedi'i ffeindio mewn aberth? Ydw i'n derbyn mwy o lawenydd o gael Iesuy fel cydweithiwr yn hytrach na Brenin? Ydw i’n fwy llawen i feddwl am deyrnasu yn nheyrnas Dduw neu am ddioddef i’w hyrwyddo?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o He Shall Glorify Me, © Discovery House Publishers

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.
More
We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org