Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 30 O 30

Mae diolch i Dduw am lawenydd yr Arglwydd yn brofiad gwirioneddol nawr, ac mae'n mynd tu hwnt i brofiad ymwybodol, oherwydd mae llawenydd yr Arglwydd yn mynd â ni at ymwybyddiaeth o Dduw, a'r fraint yn y fantol yw'r fraint o Dduw. Ydyn ni wedi sylweddoli fod Mab Duw wedi'i ffurfio ynom ni drwy ei brynedigaeth fendigedig? Dyma ogoniant y sant sydd yma'r funud hon - y gogoniant o sancteiddrwydd wedi'i amlygu mewn bywyd go iawn.

Amlygodd y Duw Hollalluog ei hun gread ei hun fel y peth gwan af, Babi. Mae'r sant aeddfed fel plentyn bach, yn hollol syml a llawen. Dalai ati i fyw'r bywyd y byddai Duw eisiau i ti ei fyw, a byddi'n tyfu ieuengach, yn hytrach na hynach. Mae yna adfywiad rhyfeddol pan fyddi di'n gadael i Dduw gael ei ffordd ei hun. Os wyt ti'n teimlo'n hen, gad i ti dy hun gael dy ail eni a gwna mwy ohono.

Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Ydw i'n meithrin arferion sy'n adlewyrchu sancteiddrwydd Crist? Ym mha ffyrdd mae Duw'n cael ei ffurfio ynddo i? Ydw i'n fodlon caniatáu i gael fy ngwneud yn wan er nwyn adennill llawenydd plentyn?

Dyfyniadau wedi'u cymryd o The Psychology of Redemption, © Discovery House Publisheru
Diwrnod 29

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org