Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 28 O 30

O funud cyntaf gyrfa Gristnogol mae bendith Duw mor synhwyrol, yda chymaint o deimlad, fel bod y Cristion yn cerdded mwy gan olwg na ffydd, mae'n ymddangos fel bod anwesu Duw arno. Ond mae amser yn dod ym mywyd y disgybl pan fydd Duw'n stopio'r cysuron hyn, pan mae llawenydd yn Nuw'n stopio bod yr hyn oedd, pan nad yw ei bresenoldeb mor felys, fel pe bai niwl trwchus yn syrthio ar ben y bywyd ysbrydol.
Am gyfnod mae'r enaid yn syrthio i dywyllwch dudew; ond yna mae'n sylweddoli bod Duw ond yn dysgu'r gwahaniaeth rhwng cerdded yng ngoleuni bendithion a phrofi gwynfyd dwyfol, neu, i'w roi'n syml, mae Duw'n arwain yr enaid allan o dir teimlad ac emosiwn crefyddol i diroedd ffydd.
Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Ym mha ffyrdd y mae Duw'n ein dysgu i gerdded yng ngolau'r gwynfyd dwyfol yn hytrach nag yng ngolau artiffisial bendithion bydol?
Dyfyniad wedi'i gymryd o God’s Workmanship, © Discovery House Publishers

Ysgrythur

Diwrnod 27Diwrnod 29

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org